Lansiad cit newydd Wrecsam (llun:Eye Imagery)
Dyrchafiad heb os fydd y nod unwaith eto i Wrecsam ar gyfer y tymor nesaf, yn ôl cyfarwyddwr y clwb pêl-droed.
Roedd Spencer Harris yn siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Fflint ddydd Iau wrth i’r clwb lansio’u cit newydd ar gyfer y tymor, sydd wedi’i noddi gan gwmni trelars Ifor Williams.
Dywedodd un o selogion y garfan Rob Evans, oedd hefyd yn y lansiad, bod “teimlad da” ganddo ar gyfer y tymor i ddod yn dilyn newidiadau i’r garfan.
Ychwanegodd Paul Rutherford, un o’r chwaraewyr newydd sydd wedi cael ei arwyddo, bod gweledigaeth y rheolwr Gary Mills wedi’i berswadio i ymuno â’r clwb.
‘Teimlad da’
“Mae’n glwb sy’n rhy fawr i fod yn y gynghrair yma ond mae mor anodd i ddod allan ohoni,” cyfaddefodd Rob Evans, sydd yn 20 oed ac wedi bod gyda’r clwb drwy gydol ei yrfa.
“Ond mae gennym ni fwrdd rheoli da, rheolwr da sy’n adeiladu tîm da. Dw i ‘di cyfarfod Paul [Rutherford] heddiw ond dw i’n ei gofio fo’n chwarae yn ein herbyn ni dros Southport llynedd ac fe roddodd o gweir i ni, felly mae’n dda ei gael o ar ein tîm ni rŵan!
“Mae gen i deimlad da ar gyfer y tymor yma, dw i ddim yn siŵr pam. Dw i’n edrych ymlaen at y tymor yma mwy nag erioed ac allai ddim aros i ddechrau arni.”
Uchelgais
Dywedodd Paul Rutherford ei fod yn gobeithio ychwanegu goliau at ei gêm wrth danio Wrecsam i ddyrchafiad yn y tymor i ddod.
“Fe gefais i sgwrs â’r rheolwr ac roeddwn i’n hoffi beth roedd o’n ei ddweud am y math o bêl-droed roedd o eisiau chwarae, lle ‘dan ni eisiau bod yn y tabl,” meddai’r asgellwr 28 oed.
“Pan chi’n edrych o gwmpas ar y stadiwm, y maes ymarfer, y cefnogwyr, mae popeth yno ar gyfer gwthio ‘mlaen a chael dyrchafiad.
“Mae’n bwysau da i’w gael, mae disgwyliad arnoch chi i fynd allan yna ac ennill gemau.”