Fe fydd yn rhaid i Roy Hodgson docio ei garfan i 23 o chwaraewyr cyn yr Ewros (llun: Mike Egerton/PA)
Mae rheolwr Lloegr Roy Hodgson wedi enwi carfan o 26 chwaraewr ar gyfer eu gemau paratoadol cyn Ewro 2016.

Cafodd Jack Wilshere a Jordan Henderson eu cynnwys er gwaethaf amheuon dros eu ffitrwydd, ac mae ymosodwr Man United Marcus Rashford hefyd wedi cael ei enwi.

Ond does dim lle i chwaraewyr fel Theo Walcott, Leighton Baines, Phil Jagielka, Michael Carrick, Jermaine Defoe ac Andy Carroll.

Bydd y Saeson yn herio Awstralia, Twrci a Phortiwgal mewn gemau cyfeillgar cyn y gystadleuaeth, ac fe fydd yn rhaid i Hodgson docio’r garfan i 23 o chwaraewyr cyn 31 Mehefin.

Coleman yn aros

Bydd Cymru’n herio Lloegr yn eu hail gêm o’r gystadleuaeth ar 16 Mehefin yn Lens, ac fe fydd y ddau dîm hefyd yn wynebu Slofacia a Rwsia yng Ngrŵp B.

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman eisoes wedi enwi carfan ymarfer o 29 chwaraewr fydd yn teithio i Bortiwgal yr wythnos nesaf.

Ond dyw’r garfan honno ddim yn cynnwys Gareth Bale, a hynny oherwydd ei fod o’n chwarae yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr gyda Real Madrid ymhen pythefnos.

Mae Coleman hefyd yn aros i glywed beth fydd sefyllfa ffitrwydd Joe Ledley, sydd wedi cracio asgwrn yn ei goes, cyn cadarnhau ei garfan terfynol.

Mae Slofacia hefyd wedi enwi carfan estynedig o 27 chwaraewr bellach, ac mae disgwyl i Rwsia wneud yr un peth yr wythnos hon.

Carfan Lloegr: Hart, Forster, Heaton; Clyne, Walker, Rose, Bertrand, Stones, Cahill, Smalling; Dier, Henderson, Milner, Delph, Drinkwater, Wilshere, Townsend, Alli, Barkley, Lallana, Sterling; Rooney, Kane, Vardy, Sturridge, Rashford

Carfan Slofacia: Kozacik, Mucha, Novota; Pekarik, Skriniar, Skrtel, Durica, Salata, Hubocan, Svento, Tesak; Pecovsky, Bero, Mak, Sabo, Kucka, Hrosovsky, Gregus, Sestak, Hamsik, Stoch, Weiss; Duris, Nemec, Zrelak