Mae tîm pêl-droed menywod Cymru wedi cyrraedd un o’r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf erioed, ar ôl cymhwyso ar gyfer Ewro 2025.
Roedden nhw’n fuddugol o 2-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Nulyn neithiwr (nos Fawrth, Rhagfyr 3), gan ennill o 3-2 dros y ddau gymal.
Tarodd Denise O’Sullivan y postyn i’r Gwyddelod yn yr hanner cyntaf, cyn i dîm Rhian Wilkinson fynd ar y blaen wedi’r egwyl, wrth i Hannah Cain sgorio o’r smotyn.
Daeth Jess Fishlock, un o sêr pennaf Cymru, oddi ar y cae ag anaf, ond yr eilydd Carrie Jones ddyblodd eu mantais ar ôl cyfuno â Lily Woodham, oedd wedi darparu’r cynorthwyo.
Sgoriodd y Gwyddelod gôl gysur ar ôl 85 munud, diolch i Anna Patten, oedd wedi ildio’r gic o’r smotyn roddodd Cymru ar y blaen.
Roedd gan Iwerddon wyth munud i geisio unioni’r sgôr, ac er gwaethaf un ymgais olaf wrth i’r bêl gael ei chlirio oddi ar linell y gôl, llwyddodd Cymru i ddal eu gafael ar eu mantais i sicrhau eu lle ar yr awyren i’r Swistir y flwyddyn nesaf.