Caerefrog 0–1 Casnewydd
Cafodd Warren Feeney ddechrau da i’w gyfnod wrth y llyw gyda Chasnewydd gyda buddugoliaeth yn erbyn Caerefrog ar Bootham Crescent brynhawn Sadwrn.
Roedd gôl gynnar Aaron Collins yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Alltudion yn erbyn y tîm sydd ar waelod yr Ail Adran.
Wyth munud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Collins yr ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd isel dda o du allan i’r cwrt cosbi.
Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r cyfleoedd gorau wedi hynny ond gwnaeth Mitchell Beeney arbediad da i atal Vadaine Oliver wrth i’r Cymry ddal eu gafael tan y diwedd.
Mae’r Alltudion yn aros yn ugeinfed yn nhabl yr Ail Adran er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent bellach chwe phwynt yn glir o safleoedd y gwymp.
.
Caerefrog
Tîm: Flinders, Hendrie, Cameron, Winfield, Ilesanmi, Summerfield (Coulson 69′), Penn, Berrett, McEvoy (Fewster 83′), Oliver, Galbraith (Massanka 56′)
.
Casnewydd
Tîm: Beeney, Holmes, Partridge (Klukowski 30′), Davies, Donacien, Hughes, Dymond (Barrow 76′), Byrne, Elito, Boden (M Taylor 90′), Collins
Gôl: Collins 8’
Cardiau Melyn: Dymond 36’, Holmes 38’
.
Torf: 2,923