Wolves 1–3 Caerdydd
Daeth wythnos anodd Caerdydd i ben gyda buddugoliaeth dda oddi cartref yn erbyn Wolves ym Molineux brynhawn Sadwrn.
Ar ôl colli yn erbyn yr Amwythig yn y cwpan nos Sul a derbyn embargo trosglwyddiadau ddydd Gwener, gorffennodd yr wythnos yn well i’r Adar Gleision diolch i goliau Craig Noone (2) a Joe Ralls yn Wolverhampton.
Dechreuodd Caerdydd yn dda a bu bron iddynt fynd ar y blaen pan darodd Stuart O’Keefe y trawst.
Fe aethant ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr, a hynny mewn steil, Noone yn derbyn y bêl gan Ralls y tu allan i’r cwrt cosbi cyn anelu ergyd wych i’r gornel uchaf.
Roedd ail gôl Noone ddeg munud cyn yr egwyl yn un dda hefyd, yn taro’r gornel uchaf gyda’i droed chwith unwaith eto wedi gwaith creu Joe Mason y tro hwn.
Tynnodd Michal Zyro un yn ôl i’r Bleiddiaid toc cyn yr egwyl ond adferodd Ralls y ddwy gôl o fantais i’r Adar Gleision yn gynnar yn yr ail gyfnod gydag ergyd isel dda o du allan i’r cwrt cosbi.
Tawelodd pethau wedi hynny ond roedd tîm Russell Slade wedi gwneud digon i sicrhau’r fuddugoliaeth. Mae’r tri phwynt yn cadw Caerdydd yn nawfed yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Wolves
Tîm: Ikeme, Iorfa, Batth, Ebanks-Landell, Doherty, Coady (Henry 45′), McDonald, Edwards, Graham (Enobakhare 65′), van La Parra, Zyro
Gôl: Zyro 40’
Cerdyn Melyn: Ebanks-Landell 32’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Peltier, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Noone, O’Keefe, Ralls, Whittingham (Fabio 86′), Pilkington (Revell 94′), Mason (Dikgacoi 75′)
Goliau: Noone 28’, 36’, Ralls 48’
Cardiau Melyn: Malone 37’, Noone 85’
.
Torf: 24,238