Alan Curtis, rheolwr Abertawe (llun o wefan y clwb)
Dywed rheolwr Abertawe, Alan Curtis, fod dicter y chwaraewyr ar ôl colli yn erbyn Sunderland nos Fercher yn eu gwneud nhw’n fwy penderfynol fyth o gadw eu lle yn yr Uwch Gynghrair.
Mewn gêm ddadleuol nos Fercher, collodd yr Elyrch 4-2 ar ôl i Jermain Defoe sgorio ddwywaith wrth gamsefyll i Sunderland, a chafodd amddiffynnwr Abertawe, Kyle Noughton ei anfon yn annheg oddi ar y cae yn yr hanner cyntaf.
Mae’r FA bellach wedi dileu ei gerdyn coch a’i waharddiad tair gêm, ac fe fydd yn cael chwarae yn erbyn Watford nos Lun.
Yn sgil y gêm nos Fercher nid oedd Abertawe ond un pwynt uwchben Sunderland yn y Gynghrair, a phetai Sunderland yn curo Tottenham neu Newcastle yn curo West Ham heddiw, fe fydd yr Elyrch yn un o’r tri thîm ar y gwaelod.
“Roedd y chwaraewyr yn ddig gyda’r hyn a ddigwyddodd nos Fercher, a dw i’n gobeithio y bydd arnyn nhw eisiau gwneud iawn am y pederfyniadau a wnaed yn eu herbyn,” meddai Alan Curtis.
Perygl
A hwythau bellach yn eu pumed tymor yn yr Uwch Gynghrair, mae Abertawe wedi llwyddo ar y cyfan i gadw allan o berygl tan yr wythnosau diwethaf.
Dywed Alan Curtis ei fod yn ffyddiog y bydd ei chwaraewyr yn ennill pwyntiau mewn pryd.
“Dw i wedi sôn o’r blaen am wydnwch pêl-droedwyr cyfoes a dw i’n meddwl bod yn rhaid iddyn fod felly oherwydd bod cymaint o heriau,” medddai.
“Fe fyddan nhw’n iawn. Maen nhw’n grŵp eithaf cryf prun bynnag ac rydyn ni’n edrych tuag at yr arweinwyr, rhai fel Ashley Williams a Neil Taylor.
“Nhw yw’r math o bobl a fydd yn camu i’r adwy inni.”
Awgrymodd hefyd y clwb yn prynu un neu ddau o chwaraewyr newydd yn fuan.