Cyn-reolwr Chelsea Roberto Di Matteo yw’r ffefryn bellach i gael ei benodi’n reolwr newydd ar Abertawe.

Roedd yr Elyrch wedi cynnal trafodaethau â’r Archentwr Marcelo Bielsa yr wythnos diwethaf er mwyn ceisio ei berswadio i gymryd y swydd.

Ond gyda dim cadarnhad yn dod o’r cyfeiriad hwnnw, a sôn fod clybiau fel Roma hefyd ar ôl Bielsa, mae’n ymddangos fel bod sylw’r cadeirydd Huw Jenkins wedi troi at opsiynau eraill.

Poyet dal yn y ras

Mae Roberto Di Matteo, a enillodd Gynghrair y Pencampwyr gyda Chelsea yn ystod ei gyfnod byr wrth y llyw yno, bellach yn ymddangos fel y ffefryn newydd i olynu Garry Monk.

Cyn ei swydd gyda Chelsea roedd wedi bod yn rheolwr ar West Bromwich Albion, ac roedd ei swydd ddiweddaraf gyda Schalke yn yr Almaen.

Ymysg y ceffylau blaen eraill o hyd mae Gus Poyet, cyn-reolwr Sunderland sydd bellach gydag AEK Athens yng Ngroeg.

Mae Alan Curtis, hyfforddwr dros dro’r tîm yn dilyn ymadawiad Monk, hefyd ymysg yr enwau sydd bellach yn cael eu hystyried gan y bwcis yn y ras.

Fe fydd Abertawe, sydd bellach yn nhri isaf yr Uwch Gynghrair, yn croesawu West Brom i Stadiwm y Liberty ar ddydd San Steffan.