Stadiwm Dinas Caerdydd fydd yn cynnal yr ornest
Mae S4C wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi cael hawliau darlledu ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn yr Amwythig yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.

Bydd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn cael ei dangos yn fyw ar nos Sul 10 Ionawr ar Sgorio, gyda’r gic gyntaf am 6.00yh.

Mae Caerdydd yn seithfed yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, ac maen nhw’n debygol o fod yn ffefrynnau clir yn erbyn Amwythig sydd yn 18fed yng Nghynghrair Un, cynghrair yn is.

Tri yn cystadlu

Tri o dimau Cymru sydd ar ôl yn y gystadleuaeth, gydag Abertawe yn teithio i Rydychen a Chasnewydd yn croesawu Blackburn ar yr un penwythnos.

Mae gan Gaerdydd hanes da yng Nghwpan yr FA yn ddiweddar, gan gyrraedd y ffeinal yn 2008, ac fe enillon nhw’r gystadleuaeth am yr unig dro yn eu hanes nôl yn 1927.

“Rydym yn falch iawn o ddilyn un o glybiau Cymru yn y gystadleuaeth hon sydd mor agos at galonnau cefnogwyr pêl-droed y genedl,” meddai Golygydd Chwaraeon S4C, Sue Butler.

“Mae gan Gaerdydd hanes hir yn y Cwpan FA, a gobeithio y bydd y gêm hon yn ddechrau ar ymgyrch lwyddiannus arall iddyn nhw eleni.

“Mae S4C yn falch o gynnig cefnogwyr ar draws y DU’r cyfle i ddilyn y cyffro yn fyw ar deledu ac ar-lein, yng nghwmni arbenigwyr profiadol rhaglen Sgorio.”