Mae rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, Garry Monk yn cael parhau yn ei swydd am y tro oherwydd nad yw’r clwb wedi ystyried pwy fydd yn ei olynu, yn ôl papur newydd y Daily Mirror.
Dywed y papur newydd hefyd nad yw’r clwb yn sicr pwy fyddai’n derbyn y swydd dros dro, gan y gallai’r is-reolwr Pep Clotet adael y clwb yr un pryd â Monk.
Ond fe fydd Monk yn gadael Stadiwm Liberty unwaith mae rheolwr addas wedi’i ddewis, meddai’r papur newydd.
Dywedodd y cadeirydd Huw Jenkins na fyddai’n gwneud penderfyniad ddydd Mercher, a hynny ddiwrnod wedi iddo dderbyn yr OBE yng nghastell Windsor.
Ar y cyfan, mae’r wasg yn cytuno mai’r cyn-reolwr Brendan Rodgers yw’r ffefryn i gael ei benodi i’r swydd.
Ond mae enw cyn-reolwr Sunderland a rheolwr presennol AEK Athens, Gus Poyet hefyd wedi cael ei grybwyll.
Byddai’n rhaid i’r Elyrch dalu £300,000 i AEK Athens pe baen nhw’n penodi Poyet, gan nad yw ei gytundeb yn dod i ben tan ddiwedd y tymor.
Ffactor arall o blaid Poyet yw y cafodd gynnig y swydd yn 2010 cyn i Rodgers gael ei benodi.
Un rhwystr wrth geisio penodi Rodgers yw fod y Gwyddel wedi cael cynnig gwerth £8 miliwn i fynd yn rheolwr i’r Dwyrain Canol.
Un dyn sy’n sicr allan o’r ras yw cyn-reolwr Man U, David Moyes sydd wedi wfftio adroddiadau bod ganddo ddiddordeb yn y swydd.
Wedi iddyn nhw golli o 3-0 yn erbyn Caerlŷr ddydd Sadwrn, mae’r Elyrch un pwynt uwchben y tri safle isaf yn nhabl yr Uwch Gynghrair.