Fe fydd Abertawe’n gobeithio gwneud yn iawn am eu colled yn erbyn Arsenal yr wythnos diwethaf wrth iddyn nhw deithio i ddwyrain Lloegr i herio Norwich yn yr Uwch Gynghrair fory.

Ar ôl dechrau’r tymor yn dda mae tîm Garry Monk ar rediad siomedig o un fuddugoliaeth mewn saith gêm gynghrair ar hyn o bryd, ac yn 13eg yn y tabl.

Ond fe fyddan nhw’n obeithiol o allu cipio pwyntiau yn erbyn Norwich, sydd yn 15fed ac wedi colli eu pedair gêm ddiwethaf.

Does dim problemau anafiadau gan yr Elyrch ac fe all Monk ddewis ei dîm cryfaf, ond mae’r amddiffynnwr a’r capten Russell Martin wedi’i wahardd i Norwich ac mae’r asgellwr Matt Jarvis wedi anafu.

‘Perfformiadau’n gwella’

Fe gollodd Abertawe o 3-0 gartref yn erbyn Arsenal yn eu gêm ddiwethaf, er bod y sgôr ychydig yn hallt ar yr Elyrch.

Ac mae Monk yn hyderus y bydd y tîm yn dechrau cael y canlyniadau mae eu safon o chwarae yn ei haeddu dros yr wythnosau nesaf.

“Mae pob tîm yn cael cyfnodau anodd yn ystod tymor – tymor diwethaf fe ddechreuon ni’n dda ond wedyn mynd trwy gyfnod tebyg i hwn,” meddai.

“Yn y ddwy gêm ddiwethaf rydw i wedi gweld mwy o bethau positif a thipyn o’r hen ni yn dychwelyd. Wrth gwrs canlyniadau yw popeth, ond os ydyn ni’n parhau i wneud beth ydyn ni’n ei wneud, fe welwch chi’r canlyniadau hynny’n dod, yn sicr.”