Chris Coleman
Mae rheolwr Arsenal wedi camu nôl o ffrae gyda Chris Coleman ar ôl i fos tîm cenedlaethol Cymru ei feirniadu mewn cynhadledd i’r wasg yr wythnos hon.

Roedd Coleman yn gandryll ar ôl i Arsene Wenger awgrymu mai Cymru oedd ar fai am anaf diweddar y chwaraewr canol cae Aaron Ramsey, gan fynegi ei rwystredigaeth yr wythnos hon.

Ond mae Wenger nawr wedi cymryd cam yn ôl gan ddweud nad oedd “wedi beio unrhyw un” am yr anaf i linyn y gâr Ramsey sydd yn golygu y bydd yn methu gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd wythnos nesaf.

‘Dim bai’

Roedd rheolwr Arsenal wedi awgrymu bod chwarae dwy gêm dros Gymru ym mis Hydref wedi cyfrannu at anaf Ramsey ac un diweddar seren Real Madrid Gareth Bale, wrth i Gymru sicrhau eu lle yn Ewro 2016.

Ond fe chwaraeodd Ramsey gêm a hanner i Arsenal ar ôl hynny cyn cael trafferthion, gan arwain at anniddigrwydd Coleman ynglŷn â sylwadau Wenger.

“Wnes i ddim beio unrhyw un,” meddai Wenger heddiw wrth drafod ymateb Chris Coleman.

“Yr unig beth ddywedais i yw y byddai wedi bod yn synnwyr cyffredin i beidio â defnyddio Bale a Ramsey unwaith roedden nhw wedi cyrraedd Ewro 2016, ac yn lle hynny dod a nhw ymlaen ag 20 munud i fynd [yn y gêm olaf yn erbyn Andorra] er mwyn cyfarch pawb a dweud diolch.

“Byddai wedi helpu’r clybiau. Dim ond barn yw hynny. Dw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth hollbwysig neu fod awydd i feio unrhyw un.”

‘Diffyg parch’

Roedd Coleman wedi holi pam nad oedd Wenger wedi cysylltu ag e os nad oedd e eisiau i Ramsey chwarae dwy gêm lawn, fel ag y gwnaeth e gyda Theo Walcott a Lloegr, gan awgrymu bod rheolwr Arsenal wedi dangos diffyg parch tuag ato.

Mynnodd Arsene Wenger fodd bynnag nad oedd ganddo amser i ffonio’r rheolwyr rhyngwladol i gyd, gan awgrymu eto fodd bynnag nad oedd chwarae dros Gymru wedi helpu ffitrwydd ei chwaraewr.

“Fe ddywedais i yn y gynhadledd honno, allai ddim ffonio pob rheolwr,” meddai Wenger.

“Mae e wedi gwneud beth mae e wedi’i wneud – dw i ddim yn ei feio fe yn arbennig.

“Rydyn ni’n edrych, yn dadansoddi pam bod ein chwaraewyr ni’n anafu ac rydych chi wastad yn meddwl os allai e fod wedi chwarae un gêm yn llai wedyn fyddai e ddim cynddrwg.”