Caerdydd 0–0 Bristol City                                                                

Di sgôr oedd hi wrth i Bristol City ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd yn y Bencampwriaeth nos Lun.

Yr ymwelwyr o Fryste a gafodd gyfle gorau hanner cyntaf di fflach ond llwyddodd David Marshall i wneud arbediad gwych i atal Jonathan Kodjia toc cyn yr egwyl.

Doedd yr ail hanner fawr gwell a Bristol City a ddaeth agosaf at agor y sgorio yn hwnnw hefyd ond daeth y postyn i’r adwy i achub yr Adar Gleision y tro hwn, wrth i ergyd Elliott Bennett daro yn erbyn y pren.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn yr wythfed safle yn nhabl y Bencmpwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Fabio, Noone (Ameobi 67′), Dikgacoi (Ralls 51′), Gunnarsson, Whittingham, Mason, Revell (Pilkington 82′)

Cerdyn Melyn: Gunnarsson 50′

.

Bristol City

Tîm: Fielding, Ayling, Flint, Baker (Bryan 25′), E Bennett, Pack, Smith, Williams, Freeman, Wilbraham, Kodjia

.

Torf: 15,287