Darcy Blake yn ei ddyddiau gyda Chaerdydd
Mae cyn-amddiffynnwr Cymru Darcy Blake wedi dychwelyd i chwarae pêl-droed i glwb lleol yng Ngwent, ychydig wythnosau yn unig ar ôl dweud ei fod wedi cefnu ar y gêm a throi at rygbi.

Fis diwethaf fe ymddangosodd Blake ar raglen Scrum V gyda chwaraewyr clwb rygbi New Tregedar RFC, gan ddweud ei fod wedi colli awydd am bêl-droed ac yn ffansi troi ei law at y bêl hirgron.

Dim ond pedair blynedd yn ôl roedd y chwaraewr sydd bellach yn 26 oed yn rhan o garfan ryngwladol Cymru, gan serennu wrth farcio Wayne Rooney mewn gêm yn erbyn Lloegr.

Mae’n amlwg fod ganddo rywfaint o awch at y gêm o hyd, fodd bynnag, a dros y penwythnos fe chwaraeodd ei gêm gyntaf dros ei glwb newydd Aberbargoed Buds o Adran Un Cynghrair De Cymru.

Neges Darcy Blake ychydig wythnosau yn ôl pan ofynnwyd iddo a fyddai’n dychwelyd i chwarae pêl-droed proffesiynol rhywbryd:

O Lerpwl i Ton Pentre

Dechreuodd Blake ei yrfa gyda Chaerdydd cyn symud i Crystal Palace yn Uwch Gynghrair Lloegr, ond ar ôl i bethau fynd o chwith fe symudodd i Gasnewydd cyn rhoi’r gorau i chwarae’n broffesiynol nôl yn 2014.

Cyn hynny roedd wedi cael ei ystyried yn un o amddiffynwyr mwyaf addawol Cymru, gan ennill 14 cap dros ei wlad, gan chwarae hefyd i Gaerdydd yn erbyn Lerpwl yn ffeinal Cwpan y Gynghrair.

Ar ôl cyfnod yn chwarae pêl-droed amatur i CPD Tredegar, ac yna cyfnod byr gyda’r tîm rygbi, mae bellach wedi canfod clwb newydd sydd yn chwarae un adran yn is nac Uwch Gynghrair Cymru.

Fe chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Aberbargoed Buds dydd Sadwrn wrth iddyn nhw ennill 3-1 yn erbyn Ton Pentre – tybed a fydd pennod annisgwyl arall yn hanes gyrfa bêl-droed Darcy Blake rywbryd yn y dyfodol?