Mae rheolwr Abertawe, Garry Monk wedi’i gysylltu â swydd rheolwr Aston Villa ddiwrnod yn unig ar ôl i’r Elyrch eu curo o 2-1 ar eu tomen eu hunain.

Cafodd rheolwr Aston Villa, Tim Sherwood ei ddiswyddo’r bore ’ma wrth i’r clwb o Ganolbarth Lloegr ddioddef eu chweched colled o’r bron yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Mae’r canlyniad hefyd yn golygu bod Aston Villa yn aros yn y tri isaf yn y tabl.

Roedd gôl hwyr gan Andrew Ayew – brawd Jordan sy’n chwarae i Aston Villa – wedi selio tynged Aston Villa a’u rheolwr.

Mae enw Brendan Rodgers, un arall o gyn-reolwyr Abertawe, hefyd wedi cael ei grybwyll fel olynydd i Sherwood, ynghyd â David Moyes.