Mae Ashley Williams wedi canmol cymeriad yr Elyrch yn dilyn eu buddugoliaeth o 2-1 oddi cartref yn Aston Villa brynhawn Sadwrn.

Hon oedd buddugoliaeth gynta’r Elyrch i ffwrdd o Stadiwm Liberty y tymor hwn.

Aeth Aston Villa ar y blaen wedi i Jordan Ayew ddarganfod y rhwyd, ond tarodd Abertawe’n ôl gyda chic rydd gan Gylfi Sigurdsson o ymyl y cwrt cosbi, cyn i frawd Ayew, Andre gipio’r gôl fuddugol ychydig funudau cyn diwedd y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth yn golygu bod gan Abertawe 13 o bwyntiau yng nghanol y tabl, gan roi terfyn ar rediad o bum gêm heb fuddugoliaeth.

Dywedodd capten yr Elyrch, Ashley Williams: “Fe ddangoson ni gryn gymeriad. Doedd y perfformiad ddim ymhlith y gorau, ond roedd lefel yr ymdrech a’r byrder yn ein chwarae lle y dylai fod.

“Ry’n ni’n gwybod y gallwn ni chwarae’n well nag y gwnaethon ni, ond roedd yn bytiog ac roedd rhaid i ni grafu buddugoliaeth – weithiau mae’n rhaid i chi wneud hynny.”

Roedd yr Elyrch yn awyddus i ymateb i’r golled yn erbyn Stoke yn y Liberty nos Lun.

Ychwanegodd Ashley Williams: “Doedden ni ddim yn hapus gyda rhai elfennau o’r chwarae ond fel capten, rwy’n hapus gyda’r ymateb i’r noson o’r blaen.

“Mae’n deimlad braf iawn. Fe ddywedais i wrth y bois fod rhaid i rywun arall gael y teimlad ofnadwy o golli gan nad oedden ni wedi ennill ers sbel.”

Ychwanegodd fod rhaid i’r Elyrch adeiladu ar y fuddugoliaeth ar gyfer gweddill y tymor.