Aaron Ramsey
Mae ffrae arall am ffitrwydd Aaron Ramsey wedi tanio ar ôl i reolwr Arsenal Arsene Wenger feio Cymru am anaf diweddaraf y chwaraewr.

Dywedodd Wenger heddiw na ddylai Ramsey fod wedi chwarae yng ngêm ragbrofol Cymru yn erbyn Andorra wythnos diwethaf, a bod hynny wedi cyfrannu at ei anaf diweddaraf e a Gareth Bale.

Yn ôl rheolwr Arsenal does dim disgwyl i’r chwaraewr canol cae fod yn ffit nes diwedd mis Tachwedd, gan olygu y bydd yn methu gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd.

Ond mae cyn-hyfforddwr Cymru Raymond Verheijen, sydd yn arbenigwr ffitrwydd, wedi beirniadu Wenger yn hallt gan awgrymu mai Arsenal ac nid Cymru sydd ar fai am anafiadau Ramsey.

Wenger yn cyhuddo Cymru

Ar ôl dychwelyd o ddyletswydd ryngwladol gyda Chymru fe chwaraeodd Ramsey gêm lawn i Arsenal yn erbyn Watford dydd Sadwrn yn ogystal â 57 munud o’u gornest nos Fawrth yn erbyn Bayern Munich yng Nghynghrair y Pencampwyr, cyn dod oddi ar y cae ag anaf.

Ond er hynny mae Wenger wedi honni y gallai’r anaf fod wedi cael ei hosgoi petai’r Cymro heb chwarae gêm lawn yn erbyn Andorra pan oedd ei wlad eisoes yn saff o le yn Ewro 2016.

“Fe gafodd e sgan heddiw ond mae e’n bendant allan. Dw i’n meddwl y bydd e allan nes ar ôl y cyfnod rhyngwladol nesaf,” meddai Wenger.

“Gyda’r cyfnod rhyngwladol [diwethaf], mae’r ffaith ei fod wedi chwarae yn erbyn Andorra yn sicr wedi costio iddo fe a Bale hefyd.”

‘Dutch Ray’ yn bytheirio

Mae Raymond Verheijen, oedd yn rhan o staff hyfforddi Cymru o dan y cyn-reolwr Gary Speed, wedi ymateb yn chwyrn i sylwadau diweddaraf Wenger fodd bynnag.

Mewn cyfres o negeseuon Twitter heddiw fe gyhuddodd e reolwr Arsenal o “wadu” y broblem oedd ganddo gydag anafiadau yn ei glwb, gan fod Ramsey eisoes wedi cael yr un anaf dwywaith tymor diwethaf.

“Dyma ni eto! Anaf arall i linyn y gâr Ramsey o Arsenal. Mae’r patrwm yn ailadrodd ei hun,” meddai’r gŵr o’r Iseldiroedd.

“Fel sydd wedi’i grybwyll yn y gorffennol, mae Ramsey yn datblygu record anafiadau yn gynnar yn ei yrfa allai beryglu ei yrfa.

“Os nad yw Arsenal yn datrys eu problem fe fyddai’n well petai Ramsey yn gadael er mwyn osgoi rhagor o anafiadau.

“Mae Wenger yn beio Cymru am anaf Ramsey. Mae’n gwadu’r peth yn llwyr. Efallai y dylai Wenger edrych eto ar ei record anafiadau?

“ Mae Ramsey, [Theo] Walcott, [Jack] Wilshere, [Alex] Oxlade-Chamberlain, a [Bacary] Sagna, [Robin] Van Persie a [Cesc] Fabregas yn y gorffennol, i gyd wedi bod allan am fisoedd ag anafiadau yn gyson bob tymor.

“Ers symud o Man United, mae Danny Welbeck wedi ymuno â’r rhestr bryderus o chwaraewyr Arsenal ifanc sydd yn cael eu hanafu’n rheolaidd.”