De Sudan yn dathlu
Mae tîm pêl-droed De Sudan wedi ennill eu pwynt cyntaf erioed mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd, yn dilyn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Mauritania.

Maen nhw’n cystadlu yn y gemau rhagbrofol am y tro cyntaf ers i wlad Sudan rannu’n ddwy yn 2012.

Cafodd yr ornest ei chynnal dros ddeuddydd, yn dilyn gohirio’r gêm oherwydd y glaw ddydd Mercher.

Cafodd 80 munud ola’r ornest eu chwarae’r bore ma.

Aeth y fraint o sgorio’r gôl gyntaf yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd i Dominic Abui Pretino.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chynnal ddydd Mawrth nesaf.

Daeth buddugoliaeth gynta’r tîm cenedlaethol newydd fis diwethaf, a honno o 1-0 yn erbyn Equatorial Guinea mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan Gwledydd Affrica yn 2017.