Rotherham 2–1 Caerdydd                                                               

Sgoriodd Matthew Connolly gôl hwyr i’w rwyd ei hun wrth i ddeg dyn Caerdydd golli yn erbyn Rotherham oddi cartref yn Stadiwm New York brynhawn Sadwrn.

Un yr un oedd hi ar yr egwyl yn dilyn dwy gic o’r smotyn hwyr yn yr hanner cyntaf ond gyda gôl-geidwad yr ymwelwyr, David Marshall, wedi ei anfon oddi ar y cae, fe gipiodd Rotherham y pwyntiau i gyd gyda gôl fuddugol yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Wedi deugain munud agoriadol diflas fe newidiodd pethau pan giciodd Marshall Matt Derbyshire yn y cwrt cosbi. Anfonwyd yr Albanwr oddi ar y cae a chafodd yr eilydd, Simon Moore, ei guro o’r smotyn gan Vadis Odjidja-Ofoe.

Roedd Caerdydd yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny yn dilyn cic o’r smotyn arall. Cafodd Fabio ei lorio gan Farrend Rawson yn y cwrt cosbi a rhwydodd Peter Wittingham o ddeuddeg llath.

Y tîm cartref, gydag un dyn yn fwy, gafodd y gorau o’r ail hanner ond bu rhaid iddynt aros tan yr eiliadau olaf cyn ennill y gêm pan wyrodd Connolly groesiad Chris Maguire i’w rwyd ei hun.

Hon oedd ail golled Caerdydd mewn wythnos ac mae’r Adar Gleision yn llithro i’r wythfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Rotherham

Tîm: Camp, Buxton, Rawson, Collins, Mattock, Odjidja-Ofoe, Smallwood, Newell, Andreu (Ledesma 68′), Derbyshire (Maguire 83′), Clarke-Harris

Goliau: Odjidja-Ofoe [c.o.s.] 43’, Connolly [g.e.h.] 90’

Cardiau Melyn: Mattock 15’, Rawson 45’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Fabio, Noone (Jones 76′), Dikgacoi, Whittingham, Ralls, Ameobi (Revell 86′), Mason (Moore 42′)

Gôl: Wittingham [c.o.s.] 45’

Cardiau Melyn: Ameobi 18’, Wittingham 23’

Cerdyn Coch: Marshall 41’

.

Torf: 8,935