Mae Jonathan Woodgate, rheolwr tîm pêl-droed Middlesbrough, wedi cael ei ddiswyddo ar ôl i Abertawe eu curo o 3-0 ddydd Sadwrn (Mehefin 20) – ac mae Neil Warnock, cyn-reolwr Caerdydd, wedi’i benodi yn ei le.

“Gall MFC gadarnhau bod y prif hyfforddwr Jonathan Woodgate wedi cael ei symud o’i gyfrifoldebau ar unwaith,” meddai’r clwb mewn datganiad.

Dywed y clwb iddyn nhw ei ddiswyddo heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 23), ac y bydd Neil Warnock yn cymryd ei le, ac yntau’n “brofiadol”.

“Hoffai’r clwb nodi ein diolch i Jonathan am ei holl waith yn swydd y prif hyfforddwr,” meddai’r clwb wedyn.

Mae’r clwb yn 21ain yn y Bencampwriaeth, un safle uwchlaw’r gwymp, a bydd Neil Warnock yn cymryd cyfrifoldeb am y tîm cyn eu gêm oddi cartref yn Stoke ddydd Sadwrn (Mehefin 27).