Ni fydd Joe Ledley yn nhîm Cymru i herio Israel yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2016 yng Nghaerdydd yfory.
Doedd Ledley, 28, ddim ar gael ar gyfer yr ornest yng Nghyprus nos Iau wedi iddo anafu llinyn y gâr.
Dydy e ddim wedi gwella o’r anaf mewn pryd, ac mae David Vaughan wedi’i ychwanegu at y garfan yn ei le.
Doedd Vaughan ddim ar gael ar gyfer y daith i Gyprus am resymau teuluol.
Ond mae newyddion gwell i Gymru o ran ffitrwydd yr amddiffynnwr canol James Chester.
Mae disgwyl iddo fod yn holliach ar gyfer yr ornest yn Stadiwm Dinas Caerdydd yfory yn dilyn anaf i linyn y gâr.