Bydd Abertawe’n gobeithio am ail fuddugoliaeth gartref dros Man U mewn dau dymor pan fyddan nhw’n herio’i gilydd yn Stadiwm Liberty brynhawn Sul.

Mae rheolwr yr Elyrch, Garry Monk wedi cyfaddef ei fod yn disgwyl i Man U geisio dial ar ei dîm y tymor hwn.

Abertawe oedd yr unig dîm i guro Man U ddwywaith yn y gynghrair y tymor diwethaf wrth i Louis van Gaal gymryd at ei waith fel rheolwr.

Hon fydd hanner canfed gêm yr Iseldirwr wrth y llyw.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Garry Monk: “Dw i’n siŵr y gwnaeth hynny eu pigo nhw, fel y byddai pe baech chi’n colli ddwywaith yn erbyn unrhyw dîm.

“Ry’ch chi’n ei ddefnyddio fel ysgogiad, galla i feddwl am nifer o droeon pan ydw i wedi gwneud hynny fel chwaraewr ac fel rheolwr yn erbyn tîm ry’ch chi wedi colli yn eu herbyn nhw o’r blaen.

“Ry’ch chi am wneud yn iawn am hynny a dw i’n sicr y bydd yn rhan o’u hysgogiad nhw.

“Rhaid i ni fod yn barod am hynny ond gallwn ni guro’r timau hyn.

“Fe ddangoson ni yn erbyn Chelsea y gallwn ni gystadlu yn erbyn y timau mwyaf a dangos beth allwn ni ei wneud.”

Roedd yr Elyrch yn fuddugol o 2-1 yn y ddwy gêm y tymor diwethaf, a’r fuddugoliaeth gyntaf yn croesawu Louis van Gaal i’w swydd am y tro cyntaf.

Ac mae van Gaal yntau’n ymwybodol o fygythiad Abertawe i amddiffyn Man U.

Dydy Man U ddim wedi ildio’r un gôl yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Ond fe allai un ai Andre Ayew, Bafetimbi Gomis neu Jefferson Montero ddileu’r record honno.

Dywedodd Louis van Gaal: “Mae Abertawe’n dîm da iawn.

“Maen nhw’n chwarae gêm yn seiliedig ar safleoedd fel rydyn ninnau.

“Maen nhw am adeiladu ac ymosod yn dda gyda chyflymdra a chreadigrwydd.

“Fe brofon nhw eu bod nhw’n dîm da y tymor hwn wrth gael gêm gyfartal yn erbyn Chelsea ac yn erbyn Newcastle, a phan dw i’n gweld y chwaraewyr unigol, dw i’n gweld eu bod nhw’n chwaraewyr o safon.”

Mae disgwyl i Juan Mata gael ei enwi ymhlith yr unarddeg fydd yn dechrau i Man U, ond mae Adnan Januzaj a Phil Jones wedi’u hanafu.

Mae Marouane Fellaini yn dychwelyd wedi gwaharddiad.