Plymouth 1–0 Casnewydd  
                                                           

Mae pethau yn mynd o ddrwg i waeth i Gasnewydd wrth iddynt lithro i waelod tabl yr Ail Adran ar ôl colli oddi cartref yn Plymouth brynhawn Sadwrn.

Graham Carey sgoriodd unig gôl y gêm i’r tîm cartref, ac roedd honno ynghŷd â gêm gyfartal Dagenham & Redbridge yn erbyn Stevenage yn ddigon i roi’r Alltudion ar waelod y gynghrair.

Di sgôr oedd hi am ran helaeth o’r hanner cyntaf yn home Park cyn i Carey guro Joe Day gydag ergyd dda ddau funud cyn yr egwyl.

Bu bron i Gasnewydd unioni pethau ym munudau olaf y gêm ond tarodd cynnig da Zac Ansah yn erbyn y trawst.

Wedi dim ond un pwynt o’u pum gêm gyntaf mae hi’n dod yn fwyfwy amlwg fod tasg anodd o flaen Terry Butcher os yw am gadw Casnewydd yn yr Ail Adran y tymor hwn.

.

Plymouth

Tîm: McCormick, Mellor, Nelson, Hartley, Sawyer, McHugh, Boateng, Jervis, Carey, Tanner (Wylde 67′), Brunt

Gôl: Carey 43’

Cerdyn Melyn: McHugh 1’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes (Laurent 60′), Hayden, Feely, Barrow, Elito, Byrne, Klukowski (Ansah 80′), Ofori-Twumasi, John-Lewis, Boden (Collins 45′)

.

Torf: 7,811