Chris Coleman
Mae Chris Coleman wedi mynnu na all tîm Cymru fforddio i feddwl am unrhyw beth arall oni bai am eu gêm nesaf yn erbyn Cyprus, wrth iddyn nhw baratoi i deithio i Nicosia wythnos nesaf.

Mae’r tîm mewn safle gwych yn eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 ar hyn o bryd ac ar y brig gyda phedair gêm i fynd, gan wybod bod eu lle yn Ffrainc y flwyddyn nesaf yn saff os ydyn nhw’n ennill y ddwy nesaf.

Bydd Gareth Bale a’i griw yn wynebu Cyprus ar 3 Medi cyn croesawu Israel i Gaerdydd tridiau yn ddiweddarach, gan obeithio dathlu eu lle yn y twrnament ar ddiwedd hynny.

Cafodd y garfan ar gyfer y ddwy gêm eu henwi heddiw, gyda holl brif sêr y tîm heblaw am Joe Allen yn ffit.

Ond mae’r rheolwr wedi rhybuddio ei dîm na allan nhw hyd yn oed ddechrau breuddwydio am daith i Ffrainc nes eu bod nhw wedi sicrhau’r canlyniadau angenrheidiol.

Gemau dwbl

Cyfaddefodd Chris Coleman, fodd bynnag, ei fod wedi gwneud camgymeriadau yn y gorffennol pan mae’n dod at gemau dwbl o fewn ychydig ddyddiau i’w gilydd, a’i fod wedi dysgu o hynny yn yr ymgyrch yma.

“Yn y gemau dwbl hynny, dw i’n meddwl ei fod o’n rhywbeth rydyn ni wedi gwella arno yn yr ymgyrch hon,” meddai.

“Dw i byth yn edrych ar yr ail gêm nes bod yr un cyntaf allan o’r ffordd.

“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod hynny’n iawn – bydden i’n dweud celwydd taswn i’n dweud nad oeddwn i’n gwybod beth rydyn ni ar fin ei wneud, ond allwn ni ddim fforddio cymryd ein llygad oddi ar y bêl yn ein gêm gyntaf.

“Mae angen i ni berfformio a pharatoi fel rydym bob amser yn gwneud.”

Anafiadau

Er bod James Collins, Ben Davies a David Edwards wedi dychwelyd i’r garfan, mae Adam Matthews a Joe Allen ymysg y rheiny sydd ddim wedi’u henwi oherwydd anafiadau.

Dyw David Vaughan ddim yn y garfan chwaith, gyda Coleman yn dweud bod hynny oherwydd amgylchiadau teuluol personol.

Fyddai Allen ddim wedi gallu chwarae yn erbyn Cyprus beth bynnag oherwydd gwaharddiad, ond fe gadarnhaodd Coleman nad oes disgwyl iddo fod yn holliach ar gyfer gêm Israel chwaith.

“Yn amlwg cafodd ei wahardd ar gyfer yr un gyntaf, ond roedden ni’n optimistaidd ar gyfer yr ail un i fyny tan yn ddiweddar,” meddai’r rheolwr.

“Mae’n siomedig oherwydd nad oes gennym ni lawer o chwaraewyr naturiol yn y rôl yna, felly mae’n ei wneud  hynny faint yn waeth bod Joe a David Vaughan yn colli allan.”

Cenhedlaeth newydd

Mewn carfan y buasai llawer o bobl wedi gallu ei rhagweld, y syndod mwyaf o bosib oedd y ffaith bod un o chwaraewyr ifanc Lerpwl sydd bellach ar fenthyg i Swindon, Jordan Williams, wedi cael ei gynnwys.

Dim ond 19 mlwydd oed yw Williams, ond roedd cefnogwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn amlwg wedi cyffroi o’i weld o ac eraill fe Tom Lawrence yn cael eu cynnwys.

Fodd bynnag, roedd eraill yn synnu bod dim lle i chwaraewyr eraill fel Tom Bradshaw na Lewis Price yn y garfan.

“Gan edrych ar y sefyllfa yng nghanol y cae rydyn ni’n gwybod sut mae’r ddwy gêm am fod, dwy gêm arall o bêl-droed ble bydd y pwysau’n uchel,” esboniodd Coleman wrth drafod dewis Jordan Williams.

“Gan fod Jordan wedi chwarae yn Anfield, mae ‘na bwysau ar bob gêm i Lerpwl ac mae o wedi delio hefo hynny, a dyna pam aethon ni i lawr y llwybr hwnnw a’i ddewis o i’r garfan.”

Munudau ar y cae

Ers dechrau’r tymor dydi Joe Ledley a rhai o chwaraewyr eraill Cymru ddim wedi bod yn chwarae mor gyson â’r arfer.

Ond gyda rhai ohonyn nhw’n chwarae yn y gemau diweddar yng Nghwpan Capital One, cyfaddefodd Coleman ei bod hi’n bwysig iddyn nhw gael munudau ar y cae cyn gêm Cyprus.

“Roedden ni’n falch iawn bod Wayne Hennessey a Joe Ledley wedi cael munudau neithiwr i Palace,” meddai Coleman.

“Mae Joe wedi gwneud gwaith gwych i ni yng nghanol cae ond doedd e ddim wedi ymddangos llawer i Palace tan neithiwr.

“Mewn ffordd mae hynny’n dda i ni oherwydd bod angen iddo gael munudau. Neithiwr roedd o’n dda gweld llawer o’n hogiau ni’n cael cymaint o amser chwarae.

“Yn gorfforol mae’n mynd i fod yn anodd iawn i ni yn Cyprus, rydyn ni’n gwybod hynny, ond rydyn ni’n falch y cafodd nifer o’n chwaraewyr gêm neithiwr.”

Stori: Jamie Thomas