Chris Coleman, rheolwr tim pel-droed Cymru
Mae Gareth Bale yn hapus yn Real Madrid a ddim yn debygol o fod â diddordeb symud yn ôl i Uwch Gynghrair Lloegr yn fuan, yn ôl rheolwr Cymru, Chris Coleman.

Dywedodd Coleman hefyd ei fod yn falch bod seren fwyaf tîm Cymru bellach yn chwarae yn Sbaen, gan ei fod nawr mewn cyflwr corfforol gwell nag yr oedd pan oedd yn chwarae yn Lloegr.

Mae rheolwr y tîm cenedlaethol hefyd wedi dweud ei fod yn “hyderus” y gall Cymru gyrraedd Ewro 2016, gyda phedair gêm yn weddill o’r ymgyrch ragbrofol.

Hyderus o gyrraedd Ffrainc

Wrth siarad ar raglen Goals On Sunday ar Sky Sports, roedd Coleman yn hapus i frolio siawns tîm Cymru o gyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

“Mae gennym ni bedair gêm i fynd [o’r ymgyrch ragbrofol], ac mae angen ennill dwy o’r gemau hynny,” meddai Coleman.

“Dw i’n hyderus y gwnawn ni gyrraedd [Ewro 2016], dw i ddim yn bod yn anystyriol neu amharchus.

“Dw i jyst yn gwybod gyda’r chwaraewyr sydd gennym ni, pa mor dda ydyn nhw, pa mor dda yw’r tîm, a dw i’n hyderus.”

Buddugoliaeth yn erbyn Gwlad Belg ym mis Mehefin sydd wedi rhoi’r tîm ar drothwy eu twrnament rhyngwladol cyntaf ers 1958, ac yn ôl Coleman roedd y noson honno’n uchafbwynt ar ei yrfa hyd yn hyn.

“Roedd yr awyrgylch mor arbennig, ac roedd y chwaraewyr yn haeddu pob clod gawson nhw, roedden nhw’n wych,” meddai rheolwr Cymru.

Aros ym Madrid

Mae llawer o sôn wedi bod am Gareth Bale dros yr haf ar ôl tymor siomedig iddo yn Real Madrid llynedd.

Ond er gwaethaf y ffaith bod Manchester United wedi dangos diddordeb dyw Chris Coleman ddim yn credu bod y Cymro yn barod i adael Sbaen eto – a’i fod e’n hapus gyda hynny.

“Pan fi’n cael e nôl o La Liga, yn gorfforol mae’n siŵr bod gwell siâp arno fe na phan oedd e yn Spurs!” meddai rheolwr Cymru.

Mynnodd ei fod yn gwneud y peth iawn hefyd wrth adeiladu tîm Cymru o gwmpas ei chwaraewr mwyaf disglair.

“Byddai dyn dall yn gallu gweld hynny [mai Bale yw’r chwaraewr gorau],” meddai Coleman.

“Mae e wrth ei fodd yn chwarae i Gymru, mae e’n derbyn y cyfrifoldeb o fod y prif ddyn, ond ar yr un pryd mae’n ffitio mewn i beth rydyn ni’n ceisio’i wneud [fel tîm].

“Rydyn ni eisiau cael fe ac Aaron Ramsey i mewn i safleoedd ar y cae ble allan nhw wneud y niwed mwyaf, pan mae gennym ni’r bêl.”