Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i gyn-golwr Cymru Tony Millington, sydd wedi marw yn 72 oed.
Bu farw’r cyn-beldroediwr yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn dilyn salwch, ac mae’n gadael gwraig a thri o blant.
Yn ystod ei yrfa bêl-droed fe chwaraeodd dros glybiau fel West Brom, Crystal Palace, Peterborough, Abertawe a Glenavon.
Fe enillodd 21 cap dros Gymru rhwng 1962 ac 1971, ond fe ddaeth ei yrfa i ben yn 1975 pan dorrodd ei wddf mewn damwain car.
‘Cymeriad’
Ers y ddamwain hwnnw roedd wedi bod mewn cadair olwyn, a nes ymlaen yn ei fywyd fe sefydlodd gymdeithas ar gyfer cefnogwyr anabl Clwb Pêl-droed Wrecsam.
“Roedd Tony yn gymeriad go iawn, a fyddai’n moesymgrymu i’r dorf ar ôl gwneud arbediad ar y cae,” meddai ei frawd Grenville Millington, oedd hefyd yn arfer chwarae fel golwr.
“Roedd e’n brwydro ac fe wnaeth e’n dda iawn i oroesi a chario ‘mlaen ar ôl y ddamwain, gyda chefnogaeth ei deulu.”
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chefnogwyr o Abertawe hefyd ymysg y rheiny sydd wedi talu teyrnged i Tony Millington.