Mae’r haf drosodd, mae’r tymor pêl-droed wedi ailddechrau eto, ac mae hynny ond yn golygu un peth – mae Cip ar y Cymry hefyd nôl i gadw llygad ar hynt a helynt y chwaraewyr Cymreig dros y flwyddyn nesaf.

Fe allai fod yn flwyddyn fawr i sawl un o’r chwaraewyr, wrth iddyn nhw lygadu lle yng ngharfan Cymru ar gyfer trip posib i Ewro 2016 yn yr haf.

I ddechrau gyda chwaraewyr Abertawe, fe gawson nhw ddechrau da i’w tymor wrth iddyn nhw deithio i Chelsea a chael canlyniad cyfartal o 2-2, gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn chwarae gemau llawn yn eu hamddiffyn.

Fe allai’r Elyrch fod wedi cipio’r tri phwynt, fodd bynnag, ar ôl iddyn nhw chwarae’r hanner awr olaf yn erbyn deg dyn yn dilyn cerdyn coch i golwr Chelsea Thibaut Courtois.

Chafodd Aaron Ramsey ac Arsenal ddim dechrau cystal i’r tymor fodd bynnag wrth iddyn nhw golli 2-0 gartref yn erbyn West Ham, oedd wedi gadael James Collins ar y fainc.

Dechreuodd Ben Davies i Spurs yn absenoldeb Danny Rose ond colli 1-0 yn erbyn Man United oedd eu hanes nhw.

Chwaraeodd Andy King gêm lawn yng nghanol cae i Gaerlŷr wrth iddyn nhw ennill yn gyfforddus o 4-2 yn erbyn Sunderland, gydag Adam Matthews yn dod oddi ar y fainc i’r gwrthwynebwyr.

Doedd dim lle i’r un o’r Cymry yn nhîm Crystal Palace, fodd bynnag, gyda Wayne Hennessey yn gorfod bodloni ar le ar y fainc a dim lle yn y garfan hyd yn oed i Joe Ledley a Jonny Williams.

Y Bencampwriaeth

Ar ôl disgyn o’r Uwch Gynghrair tymor diwethaf fe ddechreuodd Burnley eu tymor yn y Bencampwriaeth gyda gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Leeds, gyda’r eilydd Sam Vokes yn penio gôl hwyr.

Sgoriodd David Cotterill gôl agoriadol Birmingham wrth iddyn nhw drechu Reading, oedd â Chris Gunter a Hal Robson-Kanu yn eu tîm, o 2-1.

Rhwydodd Dave Edwards y gôl fuddugol wrth i Wolves drechu Adam Henley a Blackburn o 2-1, ond roedd hi’n gôl ddadleuol ar ôl iddi ymddangos fel bod y chwaraewr canol cae wedi llawio’r bêl.

Parhaodd y goliau i lifo i Gymry’r Bencampwriaeth, gyda hyd yn oed y cefnwr chwith Morgan Fox yn canfod cefn y rhwyd wrth i Charlton drechu QPR 2-0.

Dim ond un Cymro oedd ar y cae wrth i Gaerdydd groesawu Fulham yn eu gêm agoriadol nhw o’r tymor – a hwnnw, cyn-amddiffynnwr Abertawe Jazz Richards, yn gwisgo crys gwyn y gwrthwynebwyr.

Chwaraeodd Joel Lynch gêm lawn i Ipswich, cafodd Wes Burns gêm i Bristol City, roedd Joe Walsh a Simon Church ar y fainc i MK Dons, ac roedd y Cymry ifanc Josh Yorwerth (Ipswich) a Michael Doughty (QPR) hefyd ar y fainc i’w clybiau.

Ac yn yr Alban fe chwaraeodd Danny Ward ac Ash Taylor gemau llawn wrth i Aberdeen drechu Kilmarnock 2-0, ac roedd Owain Fôn Williams hefyd yn y gôl wrth i Inverness yn erbyn St Johnstone.

Seren yr wythnos – Sam Vokes. Gôl hwyr i gipio pwynt, a da ei weld yn sgorio unwaith eto ar ôl blwyddyn anodd llynedd.

Siom yr wythnos – Joe Ledley. Dim lle iddo yng nghanol cae Crystal Palace gyda Cabaye, McArthur, Mutch a Jedinak o’i flaen o.