Mae cyfarwyddwr pêl-droed Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, yn mynnu bod gan ei dîm obaith o hyd o gyrraedd rownd nesaf Cynghrair y Pencampwyr, wrth iddyn nhw baratoi i herio Videoton heno.

Colli gartref o 1-0 oedd hanes y Seintiau wythnos diwethaf yng nghymal cyntaf yr ail rownd ragbrofol, gan olygu fod yn rhaid iddyn nhw ennill yn Hwngari er mwyn cyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth.

Roedd y Seintiau’n anlwcus i golli’r cymal cyntaf hwnnw, gydag Adam Gyurcso yn sgorio unig gôl y gêm i’r ymwelwyr wedi 77 munud o gêm agos.

‘Rhaid credu’

Gyda gêm yn erbyn BATE Borisov o Felarws neu Dundalk o Iwerddon yn wobr os ydyn nhw’n llwyddo i gyrraedd y rownd nesaf, mae Craig Harrison wedi mynnu nad yw’r frwydr ar ben.

“Mae’n rhaid i ni gredu gallwn ni gael y gôl oddi cartref neu fel arall rydyn ni’n gwastraffu amser pobl,” meddai cyfarwyddwr pêl-droed y Seintiau.

“Y ffaith ydi fe gollon ni 1-0 felly os ydyn ni eisiau mynd drwyddo mae’n rhaid i ni sgorio.

“Dw i’n hyderus y cawn ni gyfle i sgorio ond fe fydd yn rhaid i ni ei gymryd o pan mae’n dod a pheidio â gwneud camgymeriadau.

“Chawson ni ddim ein synnu ganddyn nhw achos roedden ni’n gwybod eu bod nhw’n dîm da. Dydych chi ddim yn bencampwyr eich gwlad heb reswm.”