Stephen Jones
Mae Stephen Jones yn gwybod yn iawn sut beth yw hi i ddychwelyd i’w fro bellach ar ôl cyfnod dros y ffin.
Dyma’r ail waith i gyn-faswr Cymru ddychwelyd i Lanelli yn ei yrfa rygbi, ond y tro hwn mae’n mynd i’r afael â her newydd iawn wrth laesu dwylo fel hyfforddwr.
Dros gyfnod o bymtheg mlynedd fe ddaeth y gŵr o Aberystwyth yn arwr i dorf y Strade a Pharc y Scarlets, gan chwarae 316 o weithiau dros y clwb a’r rhanbarth rhwng 1996 a 2012.
Yng nghanol y cyfnod hwnnw fe dreuliodd dwy flynedd yn chwarae i Clermont draw yn Ffrainc, ac am y tair blynedd diwethaf mae wedi bod yn ennill ei fara menyn fel hyfforddwr gyda Wasps.
Ond mae’n amlwg nad oes modd ei gadw i ffwrdd o’r gorllewin gwyllt am rhy hir.
“Nes i fwynhau fy hun yn Llundain ond mae’n braf dod yn ôl i’r Scarlets. Ces i fy ngeni a fy magu yma, mae’n le arbennig i fod,” meddai Stephen Jones.
Magu profiad
Mae Stephen Jones eisoes wedi dechrau ar ei rôl fel hyfforddwr yr olwyr fel rhan o dîm hyfforddi Wayne Pivac, Byron Hayward ac Ioan Cunningham.
Ac er bod sawl wyneb cyfarwydd wedi gadael y rhanbarth bellach, gan gynnwys maswr Cymru Rhys Priestland, mae eraill fel Regan King, Ken Owens a Rob McCusker, a chwaraeodd gyda Stephen Jones dal gyda’r garfan.
Mae’r hyfforddwr yn cyfaddef ei fod yn parhau i ystyried ei hun yn gymharol ddibrofiad, ond gyda pherthynas dda â’r chwaraewyr mae’n gobeithio y bydd hynny’n help ar gyfer y tymor i ddod.
“Fi’n hyfforddwr ifanc, hwn yw fy nhrydedd flwyddyn ac mae gen i lot i’w ddysgu, mae mor syml â hynny. Mae realiti hyfforddi yn gwbl wahanol; mae’n rhaid amsugno gymaint o syniadau a phosib, ceisio gwella, dysgu gan bobl eraill,” esboniodd Stephen Jones.
“Fi’n dysgu gan y bobl o fy amgylch. Mae’n rhaid gwrando ar y chwaraewyr, nhw sydd ar y cae ac mae’n rhaid iddyn nhw fod yn gyfforddus i weithredu’r cynllun.”
Gweithio â’r criw ifanc
Mae paratoadau’r Scarlets a sawl tîm arall ar gyfer y tymor newydd wedi cael eu heffeithio gan Gwpan y Byd, gyda sawl un o chwaraewyr y rhanbarth i ffwrdd gyda’u tîm cenedlaethol am rai misoedd eto.
Yn ogystal â brwydro yn y Pro12 unwaith eto fe fydd gan y Scarlets grŵp heriol arall yn Ewrop, gan wynebu Racing Metro, Northampton a Glasgow yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.
Ac mae Stephen Jones yn cyfaddef y bydd rhaid ceisio gweld pa aelodau ifanc o’r garfan fydd yn barod i gymryd y cam nesaf a llenwi esgidiau’r rhai sydd yn absennol.
“Mae yna grŵp ffres yma a nifer o fois dwi heb gyfarfod a gweithio gydag o’r blaen,” meddai’r hyfforddwr.
“Mae’n ddiddorol mewn blwyddyn Cwpan y Byd i weld oed y garfan. Ry’n ni’n dibynnu ar fois yr academi ac yn gweithio gyda grŵp ifanc iawn. Mae egni a chyffro’r bois ifanc yn heintus.”