Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau heddiw eu bod nhw y bydd Paul Trollope yn ymuno â staff hyfforddi’r tîm cenedlaethol.

Bydd Trollope, fydd yn parhau i weithio fel hyfforddwr gyda CPD Caerdydd, yn ymuno yn dilyn ymadawiad Kit Symons, sydd wedi gadael er mwyn canolbwyntio llawn amser ar ei rôl fel rheolwr Fulham.

Ymysg y newidiadau i’r staff, mae hyfforddwr Cymru Osian Roberts hefyd wedi cael ei ddyrchafu i rôl yr Is-reolwr, sef swydd Symons gynt.

Fe fydd y tîm hyfforddi newydd yn eu lle erbyn i’r rheolwr Chris Coleman arwain y tîm i’w dwy gêm nesaf ym mis Medi yn eu hymgyrch ragbrofol Ewro 2016.

Croesawu hen ffrind

Yn ystod ei yrfa bêl-droed fe chwaraeodd Paul Trollope dros glybiau gan gynnwys Torquay, Derby, Fulham, Northampton a Bristol Rovers, yn ogystal ag ennill naw cap dros Gymru rhwng 1997 a 2003.

Ar ôl gorffen chwarae fe aeth yn rheolwr ar Bristol Rovers cyn gweithio fel hyfforddwr gyda Birmingham, Norwich ac yna Caerdydd.

Ac mae hyfforddwr newydd Cymru yn adnabod y rheolwr presennol yn dda o’i ddyddiau chwarae.

“Ar lefel bersonol a phroffesiynol, rydyn ni’n siomedig i golli Kit ond rydw i’n deall y rhesymau dros ei benderfyniad yn iawn ac yn dymuno pob lwc iddo yn Fulham,” meddai Chris Coleman.

“Rydw i fodd bynnag wrth fy modd yn croesawu un arall o fy nghyn gyd-chwaraewyr, Paul Trollope, sydd yn hyfforddwr ifanc ac addawol. Fe fydd Paul yn aelod gwych o’r tîm ac yn ffitio mewn yn wych gyda’r staff.”

Parhau gyda Chaerdydd

Fe fydd Paul Trollope yn parhau i weithio fel hyfforddwr gyda chlwb Caerdydd o dan eu rheolwr Russell Slade, gan ymuno â charfan Cymru yn ystod y cyfnodau rhyngwladol.

Wrth gyhoeddi’r penodiad dywedodd prif weithredwr yr Adar Gleision, Ken Choo, ei fod yn dymuno’n dda i Trollope a’r tîm cenedlaethol.

“Fel clwb rydyn ni wrth ein bodd ac yn falch o weld Paul yn cael ei gydnabod gan CBDC,” meddai Ken Choo.

“Tra bod ei brif ffocws yn parhau ar y dasg yma yng Nghaerdydd, rydyn ni’n hapus i’r tîm cenedlaethol ddefnyddio talent Paul er eu budd nhw, yn ystod cyfnodau penodedig, wrth iddyn nhw frwydro am le ym Mhencampwriaethau Ewrop.

“Does dim rhaid dweud fod ganddyn nhw ein cefnogaeth lawn ni yn ystod y cyfnod cyffrous yma.”

Mae gan dîm Cymru bedair gêm yn weddill o’u hymgyrch ragbrofol i geisio cyrraedd Ewro 2016, ac ar ôl trechu Gwlad Belg yn eu gêm ddiwethaf mae’n edrych yn bosib iawn y byddan nhw’n cyrraedd y twrnament yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.