Mae’r Drenewydd yn wynebu tasg anodd tu hwnt wrth geisio cyrraedd trydedd rownd rhagbrofol Cynghrair Ewropa ar ôl colli 2-0 oddi cartref yn erbyn FC Kobenhavn.

Ond fe berfformiodd tîm Chris Hughes yn ddewr yn erbyn eu gwrthwynebwyr o Ddenmarc, sydd â phrofiad helaeth o gystadlu yn Ewrop a gyda charfan oedd â sawl chwaraewr rhyngwladol.

Fe aeth y tîm o Copenhagen ar y blaen wedi tair munud yn unig diolch i Ben Verbic, ond gyda’r Drenewydd yn amddiffyn yn wych fe gymrodd hi nes y 74ain munud i Kasper Kusk sgorio ail gôl y tîm cartref.

Bydd y ddau dîm yn wynebu’i gilydd ar Barc Latham ymhen wythnos yn ail gymal yr ail rownd ragbrofol, gyda’r Drenewydd yn gwybod fod rhaid ennill o ddwy gôl o leiaf i fynd drwyddo.

‘Balch iawn’

Roedd y Drenewydd eisoes wedi creu hanes i’r clwb wrth drechu Valletta FC o Malta 4-2 dros ddau gymal yn rownd ragbrofol gyntaf y gystadleuaeth.

Ac yn ôl eu rheolwr Chris Hughes doedd dim cywilydd yn y canlyniad gawson nhw yn erbyn FC Kobenhavn.

“Roeddwn i’n meddwl fod y chwaraewyr yn wych heno,” meddai rheolwr y Drenewydd.

“Fe weithion ni’n galed ar ein cynllun ni, finnau a’r staff hyfforddi gyda’r chwaraewyr, ac roedden ni’n gwybod sut fyddai Copenhagen yn chwarae, roedden ni’n gwybod y bydden nhw’n cael tipyn o’r meddiant ac fe wnaethon ni’n wych i ddelio â hynny.

“Y peth calonogol i mi oedd y 10 i 15 munud olaf pan oedd ein lefelau ffitrwydd ni’n dda iawn; i dîm rhan amser fel ni fyny yn erbyn tîm llawn amser da iawn, iawn a pharhau i fynd y ffordd wnaethon ni, fe all y bechgyn fod yn falch iawn.”