Clwb Pel-droed y Drenewydd
Fe fydd gêm Ewropeaidd y Drenewydd yn erbyn FC Kobenhavn yn cael ei dangos yn fyw ar y we gan S4C heno.

Llwyddodd y clwb o Gymru i gyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair Ewropa ar ôl trechu Valletta o Malta 4-2 dros ddau gymal yr wythnos diwethaf.

Eu gwobr nhw yw trip i Copenhagen, ble maen nhw’n herio’r tîm a orffennodd yn ail yng nghynghrair Denmarc eleni.

Fe fyddan nhw’n wynebu talcen caled heno yn erbyn tîm sydd â phrofiad helaeth o chwarae yn Ewrop, ac mae eu carfan yn cynnwys cyn-ymosodwr Caerdydd Andreas Cornelius.

Bydd y cymal cyntaf yn cael ei chwarae yn Nenmarc heno, gyda’r gic gyntaf am 6.45yh a’r gêm yn cael ei darlledu’n fyw o wefan s4c.cymru.

Yna fe fydd FC Kobenhavn yn ymweld â’r Drenewydd wythnos nesaf ar gyfer ail gymal y rownd.