Aaron Ramsey a Gareth Bale
Mae hi’n “gyfnod cyffrous iawn i bêl-droed yng Nghymru,” yn ôl seren y tîm cenedlaethol Gareth Bale, yn dilyn cyhoeddiad heddiw bod ffeinal Cwpan Ewrop yn dod i Gaerdydd yn 2017.

Dywedodd ymosodwr Real Madrid, a enillodd Gynghrair y Pencampwyr gyda’i glwb y llynedd, fod denu’r ffeinal fawr i’r brifddinas yn arwydd arall o adfywiad diweddar y bêl gron yng Nghymru.

Ac fe ychwanegodd chwaraewr canol cae Arsenal, Aaron Ramsey, fod y newyddion yn hwb ychwanegol yn dilyn canlyniadau gwych y tîm cenedlaethol yn ddiweddar.

‘Stadiwm dan ei sang’

Mae Bale eisoes wedi ennill y gystadleuaeth clwb fwyaf yn y byd gyda Real Madrid, pan sgoriodd y gôl fuddugol i gipio’r fuddugoliaeth yn ffeinal Cynghrair y Pencampwyr llynedd.

Mae’r bachgen o Gaerdydd eisoes wedi profi’r wefr o ennill tlws Ewropeaidd yn ei ddinas enedigol hefyd, pan enillodd Real yn erbyn Sevilla yn y Super Cup ym mis Awst 2014 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ac mae chwaraewr drytaf y byd yn disgwyl i’r awyrgylch yn Stadiwm y Mileniwm fod yn un gwych pan fydd y ffeinal Ewropeaidd fawr yn dod yno ymhen dwy flynedd.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i bêl-droed yng Nghymru. Mae’n teimlo fod y wlad gyfan y tu ôl i ni wrth i ni geisio cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 flwyddyn nesaf yn Ffrainc,” meddai Bale.

“Dw i’n gwybod pa mor angerddol yw cefnogwyr pêl-droed Cymru, felly mae’n wych bod Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn dod i ddinas fy mebyd, Caerdydd.

“Ro’n i wrth fy modd yn chwarae yn Super Cup UEFA y llynedd, a byddai’n wych cael bod yn rhan o’r holl beth ger bron stadiwm eiconig a fydd dan ei sang yn 2017.”

‘Eisiau bod yn rhan ohono’

Fe gyfaddefodd chwaraewr canol cae Cymru Aaron Ramsey y byddai yntau wrth ei fodd yn chwarae yn y ffeinal Ewropeaidd fawr yng Nghaerdydd yn 2017.

Mae’r gŵr o Gaerffili yn chwarae i Arsenal ar hyn o bryd, clwb sydd yn cystadlu yn gyson yng Nghynghrair y Pencampwyr ond heb gyrraedd y ffeinal ers 2006.

Nid fod hynny i’w weld yn poeni Ramsey, sydd eisoes mewn hwyliau da yn dilyn canlyniad hanesyddol diweddar y tîm cenedlaethol a’u gobeithio o gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop y flwyddyn nesaf.

“Am dymor y mae Cymru a phêl-droed Cymru wedi’i gael!” meddai Ramsey.

“Gyda’r Super Cup y llynedd, y gefnogaeth a’r awyrgylch bythgofiadwy yn ein gêm yn erbyn Gwlad Belg yn ddiweddar, Cymru ar frig y grŵp rhagbrofol ar gyfer Ewro 2016 UEFA a nawr y newyddion gwych yma.

“Mae Stadiwm y Mileniwm yn stadiwm ffantastig. Bydd yn achlysur gwych. Mi fuaswn i wrth fy modd bod yn rhan ohono.”