Chris Coleman (llun: CBDC)
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi rhybuddio Gwlad Belg fod ei dîm yn gwybod popeth sydd angen ei wybod am y gwrthwynebwyr cyn y gêm fawr nos Wener.
Bydd Cymru’n wynebu Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos fory gyda’r ddau dîm yn hafal ar bwyntiau ar frig ru grŵp rhagbrofol Ewro 2016.
Gyda charfan yn cynnwys sêr o Uwch Gynghrair fel Eden Hazard, Thibaut Courtois, Romelu Lukaku, Christian Benteke a Jan Vertonghen, does dim rhyfedd eu bod nhw’n ail yn netholiadau’r byd.
Ond mae Coleman yn mynnu ei fod yn ymwybodol o fygythiad rhai o’u sêr o gynghreiriau eraill Ewrop hefyd, gan gynnwys Kevin de Bruyne, Axel Witsel a Radji Nainggolan.
“Rydyn ni’n gwybod am bob un o’ch chwaraewyr chi, peidiwch â phoeni am hynny!” meddai mewn ymateb i newyddiadurwr o Wlad Belg a ofynnodd faint oedd e’n ei wybod am Nainggolan.
‘Rhaid i Belg ein gwylio ni’
Mynnodd Coleman, er gwaethaf y sylw ar sêr mawr Gwlad Belg, fod angen i’r gwrthwynebwyr fod yn barod i wynebu beth fydd gan Gymru i’w gynnig o flaen eu torf gartref.
“Pan chi’n edrych ar dîm a gweld beth yw eu cryfderau, chi’n edrych ar y fainc a gweld lle allan nhw wneud newidiadau, ac fe allan nhw [Belg] newid tri neu bedwar a dal bod ar yr union yr un lefel,” meddai Coleman.
“Ry’n ni’n siarad lot am Wlad Belg, ond fe fydd angen iddyn nhw ganolbwyntio arnom ni nos Wener hefyd, achos dydyn ni ddim am eich gwahodd chi i’n iard gefn a dyna ni, fe fydd gennym ni rhywbeth i’w ddweud hefyd.”
Croesawu’r sylw
Fydd chwaraewyr Cymru ddim chwaith yn teimlo o dan unrhyw bwysau ychwanegol yn dilyn yr holl sylw ychwanegol o gwmpas y tîm ar hyn o bryd, yn ôl y rheolwr.
“Yr unig wahaniaeth yn y garfan yma yw hyn [y sylw gan y wasg], y diddordeb o du allan i’r garfan achos o’r achlysur,” meddai Coleman.
“Ond allwn ni ddim cwyno, achos rydyn ni wedi bod eisiau hyn ers sbel.
“Rydan ni eisiau bod yn chwarae o flaen torfeydd llawn, yn erbyn y timau gorau, yn chwarae ar gyfer rhywbeth arbennig. A dyma ni, felly dwi ddim yn cwyno, gobeithio bod hyn yn tyfu a thyfu.
“Dyma ble rydan ni eisiau bod, a ‘da ni’n croesawu hynny, mae’n helpu’r garfan i dyfu ac aeddfedu.”
Stori: Iolo Cheung