Fydd Paul Dummett ddim yn nhîm Cymru i wynebu Gwlad Belg nos fory ar ôl anafu llinyn y gâr.
Fe gadarnhaodd rheolwr Cymru Chris Coleman mewn cynhadledd i’r wasg heddiw y bydd yr amddiffynnwr yn methu’r gêm gydag anaf.
Bydd Dummett yn aros gyda’r garfan ar gyfer y gêm, ond mae’n gadael Cymru’n brin o opsiynau yn yr amddiffyn.
“Ni ’di colli Paul Dummett, problem gyda llinyn y gâr, yn anffodus fydd e ddim ar gael,” meddai Coleman.
“Mae e dal gyda ni, fe fydd e’n aros am y gêm, ond mae’n bechod achos dyna chi tri amddiffynnwr canol [allan gydag anaf nawr], fe gollon ni James Collins gyntaf, wedyn Ben Davies gyda’i ysgwydd, a nawr Paul Dummett.”
Bydd absenoldeb Dummett mwy neu lai yn cadarnhau mai pedwar amddiffynnwr fydd yn dechrau i Gymru nos fory yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016 hollbwysig – Chris Gunter, Ashley Williams, James Chester a Neil Taylor.
Mae gan Wlad Belg broblemau anafiadau eu hunain, fodd bynnag, gyda Marouane Fellaini wedi gorfod tynnu nôl o’r garfan ddoe gydag anaf i gesail y forddwyd.
Bydd capten Gwlad Belg, Vincent Kompany, hefyd yn methu’r gêm oherwydd gwaharddiad.