James Chester
Fel chwaraewr a ymunodd â charfan Cymru am y tro cyntaf erioed dim ond blwyddyn yn ôl, mae James Chester yn cyfaddef fod ei brofiad gyda’r tîm cenedlaethol yn wahanol i’r rhan fwyaf.

Llynedd fe gyhoeddodd yr amddiffynnwr 26 oed ei fod yn awyddus i chwarae pêl-droed rhyngwladol dros Gymru, ac yntau gyda mam yn dod o’r Rhyl.

Ers cael ei groesawu i’r garfan gan y rheolwr Chris Coleman mae Chester wedi sefydlu’i hun yn amddiffyn Cymru, gan ennill pum cap hyd yn hyn.

Ond os ydi ei ddatblygiad ar y cae wedi digwydd yn ddigon diffwdan, mae rhai elfennau o bêl-droed rhyngwladol yn cymryd ychydig mwy o amser i’w meistroli – gan gynnwys yr anthem.

“Dw i’n mynd yn fwy hyderus gydag o, ond dw i heb ei ganu hyd yn hyn,” cyfaddefodd James Chester.

“Dydi o ddim wedi gwneud niwed i fi o ran perfformiadau, felly ella na fyddai’n canu nos Wener chwaith!”

Delio â Hazard

Nos fory fe fydd Cymru’n arbennig o wyliadwrus o un o ymosodwyr Gwlad Belg, eu gwrthwynebwyr yn yr ornest ragbrofol Ewro 2016 fawr.

Mae Eden Hazard wedi disgleirio i Chelsea eleni, a James Chester yn cofio’n iawn cael gêm galed iawn yn ceisio’i gadw’n ddistaw y tro cyntaf iddyn nhw wynebu’i gilydd ar lefel clwb.

“Roedd e jyst mor anodd delio gydag o, roedd y rheolwr eisiau i mi ei ddangos lawr yr ystlys, ond roeddwn i’n gwybod taswn ni’n gwneud hynny ei fod o mor gyflym y bysa fo jyst yn rhedeg heibio i mi beth bynnag!” meddai amddiffynnwr Hull.

“Roedd e’n anodd, ond profiad roedd yn rhaid i mi gael er mwyn gwella.”

Ac un sydd wedi helpu James Chester i setlo a gwella ar y cae yw ei gapten rhyngwladol, Ashley Williams.

“Mae Ash wedi bod yn grêt, mae’n rhywun dw i wedi dod ’mlaen ag o oddi ar y cae hefyd,” esboniodd Chester.

“Mae o wedi chwarae ar y lefel uchaf ers blynyddoedd nawr ac mae ganddo ddigon o gapiau rhyngwladol, felly mae chware gydag o wedi bod yn reit hawdd.”

Dysgu’r hanes

Ar hyn o bryd mae Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol Ewro 2016 hanner ffordd drwy’r ymgyrch, yn hafal ar bwyntiau gyda Gwlad Belg sydd ar y brig.

Mae hynny wedi codi gobeithion ymysg y cefnogwyr fod y tîm ar fin creu hanes, a chyrraedd twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers 1958.

Ond fe fydd cefnogwyr Cymru hefyd yn gwybod bod y tîm wedi boddi wrth ymyl y lan ar sawl achlysur yn eu hanes, gyda Joe Jordan a’r Alban, Paul Bodin a Rwmania, a Rwsia yn 2003 i gyd yn ddigwyddiadau i godi bwganod.

Ac mae James Chester yn cyfaddef nad oes ganddo fo’r un profiad o fod wedi gweld Cymru ar eu gwaethaf a llawer o bobl eraill.

“Dw i’n ymwybodol iawn fod o wedi bod yn amser hir iawn ers i garfan o chwaraewyr Cymru gyflawni rhywbeth fel hyn [cyrraedd twrnament], ond mae dod i mewn pan dw i wedi, yn golygu ei bod hi’n anodd profi’r gorfoledd a’r siom sydd wedi bod,” meddai.

“Dw i ddim ond wedi dod mewn a phrofi lot o bethau positif, a llawer o gyffro o gwmpas y wlad, felly mae’n neis bod yn rhan ohono.”

Serch hynny, beth mae’r garfan bresennol yn gallu ei gyflawni sydd yn bwysig iddo fo bellach, nid y methiannau hanesyddol.

“Mae hynny i gyd yn y gorffennol, rydan ni wedi cael ein hunain i mewn i safle da gyda charfan sy’n cynnwys mwy o chwaraewyr o’r prif gynghreiriau nac sydd wedi bod ers sbel,” ychwanegodd Chester.

“Felly rydan ni’n gwybod fod y gallu gennym ni i gyflawni rhywbeth arbennig.”