James Collins
Fe fydd yr amddiffynnwr James Collins yn methu gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg ar 12 Mehefin oherwydd anaf i linyn y gâr.

Mae’n golygu bod opsiynau amddiffynnol Chris Coleman ar gyfer y gêm ragbrofol Ewro 2016 yn lleihau, gyda’r amddiffynnwr Ben Davies hefyd allan ar ôl datgymalu ei ysgwydd.

Ond mae gan Wlad Belg broblemau amddiffynnol eu hunain, gan fod eu capten Vincent Kompany wedi cael ei wahardd ar gyfer y gêm.

Anelu am Ffrainc

Cymru a Gwlad Belg sydd ar frig grŵp rhagbrofol B ar hyn o bryd gydag 11 pwynt yr un, ac mae Israel ddau bwynt y tu ôl iddyn nhw.

Bydd y ddau dîm uchaf yn y grŵp yn mynd i Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, ac fe fydd y tîm sy’n drydydd yn sicrhau o leiaf gêm ail gyfle.

Bydd Chris Coleman yn enwi ei garfan ar gyfer y gêm ddydd Mawrth 26 Mai, gan obeithio y bydd ei sêr pwysicaf gan gynnwys Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen ac Ashley Williams yn ffit.