Simon Church
Mae Charlton Athletic wedi cadarnhau heddiw bod Simon Church ymysg y pymtheg o chwaraewyr sydd wedi cael eu rhyddhau gan y clwb.
Fe arwyddodd yr ymosodwr o Reading ddwy flynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi sgorio deg gôl mewn 63 gêm i’r Addicks.
Ond mae wedi canfod ei hun ar gyrion y tîm eleni, wrth i’r clwb orffen yn 12fed yn y Bencampwriaeth y tymor yma.
Yn ogystal â Church, mae’r amddiffynnwr o Israel Tal Ben-Haim a chyn-amddiffynnwr Caerdydd Roger Johnson hefyd wedi cael eu rhyddhau gan y clwb.
Mae disgwyl y bydd Church, sydd wedi ennill 29 cap dros Gymru, yn cael ei enwi yn y garfan genedlaethol ar gyfer y gêm yn erbyn Gwlad Belg ymhen mis.
Ond mae’n wynebu cystadleuaeth am le yn yr ymosod gan Gareth Bale, Sam Vokes a Hal Robson-Kanu.