Arsenal 0–1 Abertawe

Mae gobeithion Abertawe o chwarae pêl droed Ewropeaidd y tymor nesaf yn fyw o hyd wedi i i gôl hwyr Bafétimbi Gomis sicrhau buddugoliaeth iddynt yn erbyn Arsenal yn yr Emirates nos Lun.

Mae’r tri phwynt yn rhoi’r Elyrch bwynt y tu ôl i Southampton sydd yn seithfed gyda dwy gêm i fynd, ac os fydd Arsenal yn curo Aston Villa yn rownd derfynol Cwpan yr FA ddiwedd y mis bydd seithfed safle yn y gynghrair yn ddigon i ennill lle yng Nghynghrair Ewropa’r tymor nesaf.

Arsenal gafodd y gorau o’r meddiant a’r cyfleoedd trwy gydol y naw deg munud a byddai Garry Monk wedi bod yn fodlon gyda gêm gyfartal ddi sgôr maen siŵr wrth i ddiwedd y naw deg munud agosáu.

Ond, gyda phum munud i fynd llwyddodd yr eilydd, Gomis, i godi’n uchel i benio croesiad Jefferson Montero heibio i David Ospina, i gipio’r tri phwynt i’w dîm gyda gôl yn ei gêm gyntaf yn ôl wedi anaf.

Cafodd Lukasz Fabianski gêm dda arall yn y gôl i’r Elyrch gan gadw llechen lân yn erbyn ei gyn glwb.

Pwynt yn unig sydd yn gwahanu Abertawe a Southampton bellach ac mae’r momentwm i gyd gan yr Elyrch.

.
Arsenal
Tîm
: Ospina, Bellerin, Mertesacker, Koscielny, Monreal, Cazorla, Coquelin (Wilshere 67′), Ramsey, Özil, Sánchez, Giroud (Walcott 69′)

.
Abertawe
Tîm:
Fabianski, Rangel (Richards 60′), Fernandez, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng (Gomis 74′), Cork, Shelvey, Dyer (Barrow 79′), Sigurdsson, Montero
Gôl: Gomis 85’
Cerdyn Melyn: Shelvey 38’
.
Torf: 59,989