Gary Mills
Mae rheolwr newydd Wrecsam wedi dweud na fydd yn “rhuthro” i wneud penderfyniad ar bwy fydd yn ei garfan ar gyfer y tymor nesaf.

Cafodd Gary Mills ei benodi gan y clwb neithiwr, gyda chyn-reolwr Gateshead yn gwrthod cynnig gan Tranmere cyn penderfynu symud i’r Cae Ras.

Yn ei gynhadledd gyntaf i’r wasg, mynnodd y rheolwr newydd fod gan Wrecsam garfan dda eisoes ac y byddai’n awyddus i gadw’r rhan fwyaf o chwaraewyr.

Ac fe ddywedodd ei fod yn hollol barod i ddelio â’r “disgwyliadau” o ennill dyrchafiad o’r Gyngres yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed.

‘Cyfle gwych’

Cyfaddefodd Gary Mills y byddai wedi bod yn hapus aros yn Gateshead tymor nesaf, ond bod apêl Wrecsam fel clwb yn ormod iddo.

“Doeddwn i ddim eisiau gadael [Gateshead], ond roedd y cyfle i ddod i Wrecsam i wneud swydd byddai’n mwynhau gwneud yn wych,” meddai’r rheolwr 53 oed.

“Roedd gen i deimlad da am Wrecsam.

“Mae’r disgwyliadau yn fy nghyffroi i … does dim pwynt gwneud y swydd os yw hynny’n eich dychryn chi.”

Gwella’r garfan

Dywedodd Gary Mills y byddai’n siarad ag asiantau dros yr wythnosau nesaf i weld pa chwaraewyr newydd y bydd yn gallu denu i Wrecsam.

Ond fe awgrymodd ei fod yn credu bod carfan dda gyda’r clwb eisoes, ac mai’r flaenoriaeth fyddai cadw rhai o’r chwaraewyr hynny ar gytundebau newydd a chael y gorau allan ohonyn nhw.

“Mae chwaraewyr da yma, mae’n garfan dda sydd angen ambell newid, angen rheoli, angen disgyblaeth wrth symud ymlaen,” meddai Gary Mills, a enillodd Gwpan Ewrop gyda Nottingham Forest fel chwaraewr yn 1980.

“Dw i’n edrych ymlaen at wneud penderfyniad ar y chwaraewyr yma … a’r chwaraewyr fydda i’n dod i mewn. Dydych chi ddim yn panicio a rhuthro mewn i’r pethau yma.”

Dyrchafiad

Er bod Wrecsam wedi gorffen yn 11eg yn y Gyngres eleni, cyfaddefodd Gary Mills bod y disgwyliad yno o hyd i geisio ennill dyrchafiad y tymor nesaf.

Mae o eisoes wedi llwyddo i wneud hynny fel rheolwr, gan godi York City o’r Gyngres yn 2012 a dod yn agos i wneud yr un peth gyda Gateshead llynedd.

“Mae tipyn o debygrwydd i’r sefyllfa yn Efrog [o’i gymharu â Wrecsam],” meddai Gary Mills.

“Pan es i yno nes i ddweud mod i eisiau mynd a’r tîm allan o’r Gyngres, a dw i eisiau bod y dyn sydd yn mynd a Wrecsam allan o’r Gyngres.”