Abertawe 1–1 Everton

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Abertawe groesawu Everton i’r Liberty yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Aaron Lennon yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond achubodd Jonjo Shelvey bwynt i’r Elyrch o’r smotyn yn yr ail hanner.

Bu rhaid i Tim Howard yn y gôl i Everton fod yn effro i atal cynnig cynnar Bafetimbi Gomis, ond bu rhaid i flaenwr yr Elyrch adael y cae gydag anaf wedi dim ond chwarter awr.

Roedd Shelvey yn meddwl ei fod wedi rhoi’r tîm cartref ar y blaen wedi hynny gyda foli wych ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu yn dilyn trosedd gan Wayne Routledge yn gynharach yn y symudiad.

Ond er mai Abertawe oedd y tîm gorau, Everton aeth ar y blaen bedwar munud cyn yr egwyl pan rwydodd Lennon o groesiad James McCarthy.

Yr Elyrch oedd y tîm gorau wedi’r egwyl hefyd ac roeddynt yn llawn haeddu unioni hanner ffordd trwy’r hanner pan rwydodd Shelvey o’r smotyn yn dilyn llawio yn y cwrt cosbi gan Seamus Coleman.

Bu bron i gic rydd hwyr Gylfi Sigurdsson gipio’r tri phwynt i Abertawe ond bu rhaid iddynt fodloni ar un yn y diwedd.

Mae’r pwynt hwnnw’n golygu eu bod yn wythfed yn y tabl gyda 47 pwynt, a gydag un pwynt arall o’u chwe gêm olaf, hwn fydd tymor mwyaf llwyddiannus yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair.

.
Abertawe
Tîm:
Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Ki Sung-yueng, Shelvey (Dyer 84′), Sigurdsson, Routledge, Gomis (Emnes 17′)
Gôl: Shelvey [c.o.s.] 69’
Cardiau Melyn: Taylor 52’, Emnes 56’, Williams 80’
.
Everton
Tîm:
Howard, Coleman, Stones, Jagielka, Baines, Barry, Lennon, McCarthy, Barkley (Mirallas 86′), Osman (Pienaar 28′), Koné (Naismith 76′)
Gôl: Lennon 41’
Cardiau Melyn: Kone 25’, Howard 68’, Lennon 84’
.
Torf: 20,468