Cwpan Cymru
Bydd ffeinal Cwpan Cymru rhwng Y Drenewydd a’r Seintiau Newydd ar 2 Mai yn cael ei chynnal ar Barc Latham ar ôl trafodaethau rhwng swyddogion y ddau dîm.

Fel arfer mae’r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar faes niwtral, yn aml mewn lleoliad sydd yn ganolog i’r ddau dîm.

Ond eleni mae’r drefn honno wedi cael ei newid, gyda’r Drenewydd yn chwarae ‘gartref’ ar eu tomen eu hunain yn eu hymddangosiad cyntaf yn ffeinal y Gwpan ers 118 mlynedd.

Cyrhaeddodd Y Seintiau Newydd y ffeinal gyda buddugoliaeth o 4-2 dros Airbus, tra bod Y Drenewydd wedi trechu Rhyl o 2-1.

Y ddau dîm yn cytuno

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod y lleoliad wedi cael ei ddewis ar ôl i’r ddau glwb ddod i gytundeb.

Ond mae rhai cefnogwyr eisoes wedi cwestiynu pam nad yw’r gêm yn cael ei chwarae ar faes niwtral cyfleus fel y Cae Ras yn Wrecsam neu Goedlan y Parc yn Aberystwyth.

Mae’r Seintiau Newydd yn anelu am y trebl eleni ar ôl eisoes ennill Cwpan Word ac Uwch Gynghrair Cymru, ac maen nhw’n ceisio mynd tymor cyfan heb golli gêm ddomestig.

Bydd y Drenewydd fodd bynnag, sydd yn chweched yn Uwch Gynghrair Cymru, yn ceisio ennill y Gwpan am y tro cyntaf ers 1895.

“Bydd yn achlysur arbennig i edrych ymlaen ato ac rydyn ni eisoes yn gweithio ar y paratoadau ar gyfer y ffeinal,” meddai Pennaeth Cystadlaethau CBDC, Andrew Howard.

“Y gobaith yw bod y ffaith ei bod hi wedi bod dros 100 mlynedd ers i Glwb Pêl-droed y Drenewydd gyrraedd y rownd yma yn hwb i’r dref gyfan ddod allan a chefnogi pennod newydd yn hanes y clwb.”