Casnewydd 0–1 Mansfield

Ildiodd Casnewydd gôl hwyr wrth golli gartref yn erbyn Mansfield yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Rhwydodd Reggie Lambe i’r ymwelwyr dri munud o’r diwedd i roi tolc yn ngobeithion Casnewydd i sicrhau lle yn y gemau ail gyfle.

Er fod deuddeg lle yn gwahanu’r ddau dîm yn y tabl ar ddechrau’r gêm doedd dim llawer ynddi trwy gydol y gêm.

A gyda’r gêm yn anelu am gêm gyfartal fe gipiodd y tîm o’r gwaelodion y pwyntiau i gyd gyda ergyd Lambe yn dilyn gwaith creu Callum Elder.

Siom i Gasnewydd felly ond maent yn aros yn y seithfed safle gan i Portsmouth golli hefyd, oddi cartref yn Northampton.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Jackson, Jones, Yakubu, Tutonda, Byrne, Minshull (Sandell 69′), Chapman, Klukowski (Porter 72′), Zebroski (Parker 83′), Storey
.
Mansfield
Tîm:
Studer, Beevers, Tafazolli, Elder, Riley, Monakana (Lambe 58′), McGuire, Heslop (Thomas 81′), Clements, Brown, Kee (Oliver 83′)
Gôl: Lambe 87’
Cardiau Melyn: Elder 86’, Thomas 90’, Lambe 90’
.
Torf: 2,481