Rotherham 1–3 Caerdydd

Cafwyd perfformiad hanner cyntaf da iawn gan Gaerdydd wrth iddynt drechu Rotherham yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Sgoriodd yr Adar Gleision dair gôl yn yr hanner cyntaf yn Stadiwm New York ac er nad oeddynt cystal wedi’r egwyl roeddynt wedi gwneud digon i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Daeth y gôl gyntaf i Bruno Ecuele Manga hanner ffordd trwy’r hanner gyda pheniad da o gic gornel Joe Ralls.

Dau funud yn unig oedd rhaid ei aros am yr ail ac roedd hon yn dipyn o gôl, foli wych o ongl dynn gan Federico Macheda.

Yna, roedd y canlyniad fwy neu lai yn ddiogel ddeg munud cyn yr egwyl pan rwydodd Conor McAleny ei gôl gyntaf dros y clwb yn dilyn gwaith da Matthew Connolly ar yr asgell.

Roedd y tîm cartref fymryn yn well wedi’r egwyl ond rhy ychydig rhy hwyr oedd peniad Danny Ward ddeg munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i’r trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Rotherham
Tîm:
Collin, Hunt, Broadfoot, Arnason, Fryers, Newton (Hammill 45′), Green, Smallwood, Pringle, Ward, Derbyshire (Sammon 59′)
Gôl: Ward 80’
Cerdyn Melyn: Green
.
Caerdydd
Tîm:
Marshall (Moore 45′), Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Connolly, Kennedy, Gunnarsson, Ralls, Macheda (Doyle 71′), Revell (Jones 86′), McAleny
Goliau: Ecuele Manga 24’, Macheda 26’, McAleny 35’
.
Torf: 8,534