Bydd Caerdydd yn teithio i Port Vale yn ail rownd Cwpan Capital One, yn dilyn eu buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Coventry neithiwr.

Cafodd Caerdydd eu cynnwys ar restr y detholion ar gyfer yr ail rownd, ac fe gawson nhw eu gwobrwyo gyda thaith i herio tîm Micky Adams sy’n chwarae yn yr Adran Gyntaf.

Bydd Abertawe’n croesawu Rotherham, oedd wedi ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth y tymor hwn, i’r Liberty yn yr ail rownd.

Ond nid oedd Casnewydd yn yr het ar gyfer y rownd yma, wedi iddyn nhw golli o 3-1 yn erbyn Reading nos Fawrth.

Bydd y gemau’n cael eu cynnal yn ystod wythnos Awst 25.