Diwedd y twrnament i Neymar (Tania Rego/ABr)
Mae hi wedi bod yn Gwpan y Byd llawn canlyniadau bron-sioc – wrth i’r ffefrynnau unwaith eto gyrraedd y rownd gynderfynol dros y penwythnos.

Ac unwaith eto cael a chael oedd hi i’r pedwar tîm a enillodd, gyda’r gwrthwynebwyr yn eu gwthio’r holl ffordd.

Neithiwr roedd yn rhaid i’r Iseldiroedd fynd i giciau o’r smotyn i drechu Costa Rica, er gwaethaf y ffaith mai honno oedd yn ymddangos fel y gêm fwyaf unochrog ar bapur.

Yn gynharach yn y dydd dim ond 1-0 y llwyddodd yr Ariannin i drechu Gwlad Belg, diolch i gôl gynnar Gonzalo Higuain.

Nos Wener cafwyd dau ganlyniad agos hefyd, gyda Brasil yn trechu Colombia o 2-1 a’r Almaen yn curo Ffrainc diolch i unig gôl y gêm gan Mats Hummels.

Mae pob gêm yn rownd yr 16 a’r wyth olaf wedi cael ei hennill gan y ffefrynnau felly – ond yn syfrdanol dim ond dwy o’r rheiny gafodd eu hennill o fwy nag un gôl, gyda hanner y gemau’n mynd i amser ychwanegol.

Krul yn curo Costa Rica

Cafwyd gêm ddramatig di-sgôr arall yng Nghwpan y Byd neithiwr wrth i Costa Rica lwyddo i gael gêm gyfartal yn erbyn yr Iseldiroedd.

Y golwr oedd yr arwr eto, wrth i Keylor Navas arbed cyfleoedd di-ri gan yr Iseldiroedd, gan gynnwys ymdrechion Wesley Sneijder, Robin van Persie, Memphis Depay a Ron Vlaar.

Gallai van Persie fod wedi sgorio hat-tric yn hawdd ar ddiwrnod arall, ond er gwaethaf hanner awr o amser ychwanegol doedd y cewri methu canfod ffordd heibio i Costa Rica.

Ac fe allai’r tîm o ganolbarth America fod wedi ei chipio hi ar y diwedd, wrth i Michael Urena yn gyntaf gael ei faglu yn y cwrt cosbi ond ddim yn cael cic o’r smotyn, ac yna’n gorfodi Jasper Cillessen i arbed yn dda.

Daeth y ddrama fawr ar y diwedd, wrth i’r Iseldiroedd eilyddio’u golwr Cillessen am Tim Krul yn yr eiliadau olaf yn benodol ar gyfer y ciciau o’r smotyn.

Ac fe dalodd y penderfyniad ar ei ganfed, wrth i Krul achub ymdrechion Bryan Ruiz ac Urena i anfon yr Iseldiroedd drwyddo.

Higuain yn arwr

Bydd yr Iseldiroedd yn wynebu’r Ariannin yn y rownd gogynderfynol ar ôl iddyn nhw drechu Gwlad Belg o 1-0 diolch i gôl gynnar Gonzalo Higuain.

Wrth i amddiffyn y Belgiaid geisio atal Angel di Maria rhag saethu fe adlamodd y bêl i lwybr Higuain, a drodd yn wych i daro ergyd ar y cynnig cyntaf yn syth i’r rhwyd – gôl reddfol ymosodwr.

Ceisiodd Gwlad Belg frwydro nôl ond roedd hi’n gêm ddigon difflach, gydag Eden Hazard, Kevin de Bruyne a Kevin Mirallas yn methu â chynnig digon o gefnogaeth i Divock Origi.

Ariannin gafodd y gorau o’r cyfleoedd eraill wrth i Higuain daro’r trawst yn yr ail hanner, a Lionel Messi’n methu cyfle un yn erbyn un yn y munud olaf.

Fe wthiodd Gwlad Belg Marouane Fellaini, Romelu Lukaku a Daniel van Buyten ymlaen fel ymosodwyr er mwyn ceisio cipio gôl, ond yn ofer.

Brasil drwyddo – ond yn talu’r pris

Llwyddodd y tîm cartref i gyrraedd y rownd gynderfynol ar ôl trechu Colombia nos Wener, ond fe dalon nhw bris drud wrth i’w seren fawr, Neymar, ddioddef anaf fydd yn ei gadw allan am weddill Cwpan y Byd.

Roedd Brasil 2-0 ar y blaen diolch i ben-glin Thiago Silva ar ôl i gic gornel fethu â chael ei chlirio, ac yna cic rydd wych David Luiz yn yr ail hanner.

Ond ar ôl i James Rodriguez rwydo cic o’r smotyn i Golombia fe bwysodd y gwrthwynebwyr am y deg munud olaf er mwyn ceisio unioni’r sgôr.

Ac wrth i Camilo Zuniga neidio am bêl yn yr awyr fe darodd ei ben-glin i gefn Neymar, gan gracio asgwrn fertebra yn ei gefn.

Felly er gwaethaf y ffaith eu bod drwyddo, saff dweud mai siomedig yw’r ymdeimlad ym Mrasil ar hyn o bryd wrth iddyn nhw orfod ceisio ennill y gystadleuaeth heb eu prif sgoriwr.

Yr Almaen fydd eu gwrthwynebwyr yn y rownd gynderfynol ar ôl iddyn nhw drechu Ffrainc, gyda Mats Hummels yn penio’r unig gôl o gic rydd.

Ceisiodd Ffrainc gael gôl yn ôl wrth wrthymosod, gyda Mathieu Valbuena a Karim Benzema yn methu cyfleoedd.

Ond doedd eu hymdrechion ddim yn ddigon, a dyma ddiwedd eu taith nhw ym Mrasil.

Gemau nesaf

Brasil v Yr Almaen (dydd Mawrth, 5.00yp)

Yr Iseldiroedd v Ariannin (dydd Mercher, 5.00yp)