Mae gan Forgannwg gêm wrth gefn o’i gymharu â Swydd Surrey wrth i’r timau sy’n drydydd a phedwerydd yn ail adran yn y Bencampwriaeth fynd ben-ben â’i gilydd ym Mae Colwyn.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r ddwy sir gyfarfod â’i gilydd yn y Bencampwriaeth yng ngogledd Cymru ond maen nhw’n hen gyfarwydd â herio’i gilydd ar rai o gaeau llai Morgannwg, gan gynnwys San Helen, Parc y Strade, y Gnoll, Parc Ynys Angharad, Creseli a Pharc Eugene Cross.

Pan gyfarfu’r ddwy sir yn gynharach y tymor hwn yn yr Oval, roedd Morgannwg yn fuddugol o ddeg wiced yn dilyn ffigurau gorau erioed y bowliwr cyflym llaw chwith, Graham Wagg, a gipiodd 6-29 wrth i Swydd Surrey gael eu bowlio allan am 81.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Swydd Surrey yn y Bencampwriaeth yng Nghymru ers 1983 – daeth eu buddugoliaeth flaenorol yn 1968 yng Nghastell-nedd!

Mae Murray Goodwin yn dychwelyd i’r garfan 12 dyn yn lle’r batiwr agoriadol Tom Lancefield, sydd ar fenthyg i Forgannwg o’u gwrthwynebwyr.

Carfan 12 dyn Morgannwg: J Rudolph, W Bragg, M Goodwin, C Cooke, B Wright, J Allenby, M Wallace (capten), R Smith, A Salter, D Cosker, W Owen, M Hogan

Carfan 13 dyn Swydd Surrey: G Wilson (capten), Z Ansari, G Batty, R Burns, T Curran, S Davies, M Dunn, A Harinath, T Linley, J Roy, D Sibley, V Solanki, C Tremlett