Pentref Reeth yn Swydd Efrog (Llun: John Giles/PA Wire)
Yr Almaenwr Marcel Kittel o dîm Giant-Shimano enillodd gymal cyntaf y Tour de France heddiw yn Swydd Efrog.

Ond cafodd un o’r ffefrynnau i ennill y cymal, Mark Cavendish, godwm gas iawn ar y terfyn ac yntau’n ceisio ennill yn nhre frodorol ei fam yn Harrogate.

Mae’r gwibiwr o Ynys Manaw wedi ei gludo i’r ysbyty ar ôl y gwrthdrawiad gyda’r Awstraliad Simon Gerrans.

Gorffennodd y Cymro Geraint Thomas ymhlith yr arweinwyr yn safle rhif 17, tra bod ei gydymaith yn nhîm Sky a phencampwr y llynedd, Chris Froome, wedi gorffen yn chweched yn y cymal 190km o hyd.

Roedd y ras wedi ei darlledu’n fyw ac yn Gymraeg ar S4C gyda’r gitarydd roc Peredur ap Gwynedd ymhlith y sylwebwyr.

Mae’r ras yn ymlwybro o Gaerefrog i Sheffield yfory.