Mae capten Abertawe wedi arwyddo cytundeb newydd i aros gyda’r clwb am bedair blynedd, sy’n rhoi terfyn ar awydd Sunderland i arwyddo’r amddiffynnwr rhyngwladol.

Roedd sôn bod Sunderland yn fodlon talu £5miliwn i hebrwng Williams o’r Liberty.

“Rydw i wrth fy modd o fod wedi arwyddo cytundeb newydd gydag Abertawe,” meddai’r amddiffynnwr fydd yn ymuno gyda’i gyd-chwaraewyr ar daith yn yr Unol Daleithiau’r wythnos hon.

Ymunodd Williams gydag Abertawe yn 2008 pan dalon nhw £400,000 i Stockport am ei wasanaethau.