Neymar yw seren Brasil
Rhys Jones sy’n edrych ar obeithion y tîm cartref yn erbyn y tîm sydd wedi syfrdanu pawb yng Nghwpan y Byd hyd yma…

Bydd Brasil yn gobeithio cadw ei gobeithion o ennill Cwpan y Byd yn fyw wrth guro Colombia.  Fe wnaeth Colombia guro Wrwgwái yn gyfforddus 2-0 i gyrraedd yr wyth olaf ond ennill ar giciau o’r smotyn wnaeth Brasil yn erbyn Chile.

Mae Colombia wedi ennill pob un o’r pedair gêm ac mae llawer o’r farn y gallant ennill y gystadleuaeth.  Er hynny dim ond dwywaith y mae Colombia wedi curo Brasil, ond mae’r pedair gêm olaf rhwng y ddau dîm wedi gorffen yn gyfartal.

Mae Brasil yn gobeithio ennill y Cwpan am y chweched tro, ond wedi colli yn y rownd hon yn y ddwy gystadleuaeth olaf.  Bydd Brasil yn falch bod Neymar wedi gwella o anaf i’w goes ac yn chwarae, ond ni fydd y chwaraewr canol cae Luiz Gustavo ar gael oherwydd gwaharddiad.  Mae’n debyg mai chwaraewr Tottenham Paulinho fydd yn cymryd lle Gustavo ac yn chwarae wrth ymyl Fernandinho o Manchester City.  Bydd yn rhaid i Scolari benderfynu os yw am gadw ffydd yn yr ymosodwr Fred sydd wedi cael ei feirniadu ac mae wedi gwadu bod y disgwyliadau yn ormod i’w chwaraewyr.

‘‘Mae’n beth arferol i bobl disgwyl i ni chwarae’n well,’’ meddai Scolari.

Dyma’r tro cyntaf i Golombia gyrraedd y chwarteri yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.  Mae’n debyg y bydd y rheolwr Jose Pekerman yn cadw ffydd yn y tîm a drechodd Wrwgwái.  Hyd yn hyn mae Colombia wedi sgorio 11 gôl ac ildio dim ond dwy.  Mae Pekerman wedi dweud y bydd y ddau dîm are u gorau a bod yna chwaraewyr arbennig o dda gyda’r ddau dîm.

‘‘Gyda chwaraewyr da yn y ddau dîm rwy’n siŵr y bydd hi’n gêm ddiddorol a chyfartal iawn,’’ meddai Pekerman.