Rhys Jones sy’n edrych ar obeithion y ddwy wlad sy’n wynebu’i gilydd yn rownd yr wyth olaf…

Cyn y gystadleuaeth yr oedd Yr Almaen yn edrych yn gryfach tîm ar bapur ac yn ffefrynnau i ennill, ond mae Ffrainc wedi bod yn chwarae’n dda ac mae’n siŵr y bydd yn gêm agos iawn.  Mae un peth yn sicr, fe fydd yn gêm o safon uchel gyda llawer o chwaraewyr talentog yn y ddau dîm.

O ran Ffrainc, fe ddylai Mamadou Sakho fod wedi gwella ar ôl dioddef o broblemau i’w bengliniau ond fe allai amheuaeth fod am Raphael Varane a dreuliodd noson yn yr ysbyty yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Nigeria.

Mae Christoph Kramer wedi gwella o anhwylder ac mae’n debyg y bydd canolwr cefn Borussia Dortmund, Mats Hummels ar gael ar ôl colli’r gêm yn erbyn Algeria oherwydd ei fod yn dioddef o’r ffliw.

Yn ystod y 25 gêm ddiwethaf yn erbyn Ffrainc, mae’r Almaen wedi ennill wyth, a Ffrainc 11.  Mae’r Almaen wedi sgorio 42 o goliau a Ffrainc 41.

Dim ond un gôl sydd ei angen ar Miroslav Klose i’w wneud y prif sgoriwr yn hanes Cwpan y Byd.  Ar y funud mae ganddo ef a Ronaldo bymtheg gôl yr un.  Mae gan Benzema o Ffrainc y cyfle i gyrraedd yr wythfed safle o brif sgorwyr Ffrainc.  Ar y funud mae ganddo 24 o goliau mewn 69 o gemau.

Chwaraewyr i’w gwylio

Karim Benzema (Ffrainc)

Dim ond dwy gôl yn llai sydd ganddo na James Rodriguez sy’n brif sgoriwr y gystadleuaeth hyd yn hyn.  Mae’n debyg y bydd yn rhaid iddo sgorio heno i gael unrhyw gyfle i ennill yr Esgid Aur.

Thomas Müller (Yr Almaen)

Fe fydd yn gwneud ei orau i fod y chwaraewr cyntaf i ennill yr Esgid Aur mewn dau Gwpan Byd gefn wrth gefn.  Mae ganddo bedair gôl ar hyn o bryd.

Paul Pogba (Ffrainc)

Mae wedi chwarae yn dda yn y gystadleuaeth yn arbennig yn y ddwy gêm olaf.  Mae ganddo’r gallu i fod yn un o chwaraewyr canol cae gorau’r byd, ac mae’n debyg y bydd Ffrainc yn dibynnu’n fawr arno yn y gêm hon.

Toni Kroos (Yr Almaen)

Mae wedi cael wyth ergyd hyd yn hyn ond heb sgorio.  Fe ddangosodd y tymor diwethaf wrth chwarae i Bayern Munich ei fod yn sgoriwr wrth reddf.

Pan chwaraeodd y ddwy wlad ddiwethaf yn erbyn ei gilydd yn Chwefror 2013, yr Almaen wnaeth ennill 2-1.